Perchennog siop yn cael ei ddedfrydu am werthu fêps anghyfreithlon yn dilyn ymchwiliad gan y Cyngor
Shop owner sentenced over sale of illegal vapes following Council investigation
Mae perchennog siop yn Hwlffordd wedi cyfaddef gwerthu fêps anghyfreithlon yn dilyn ymchwiliad gan Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro.
Gwnaeth swyddogion Safonau Masnach dderbyn gwybodaeth bod Vape Zone ar Stryd y Farchnad, Hwlffordd, yn gwerthu fêps nad oeddynt yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Ymwelwyd â’r busnes ar 3 Hydref 2023 a chafodd cynorthwyydd y siop gyngor ynghylch fêps anghyfreithlon a gwerthu i bobl dan oed.
Roedd stoc fawr o fêps anghyfreithlon yn cael eu harddangos yn agored yn y siop.
Roedd y tanciau yn amrywio o 10ml i 18ml gyda 4,000 i 9000 o byffiau.
2ml (tua 600 o byffiau) yw’r maint tanc mwyaf y mae Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 yn ei ganiatáu.
Mae’n drosedd i fasnachwr gyflenwi E-sigarét tafladwy gyda thanc sy’n fwy na 2ml.
Ildiodd y cynorthwyydd yr holl stoc nad oedd yn cydymffurfio â’r gyfraith - 352 o fêps tafladwy.
Anfonwyd llythyr rhybudd, ynghyd â rhagor o ganllawiau ysgrifenedig, at Gyfarwyddwr y cwmni, Salar Jaff, ar 6 Hydref. Ni dderbyniwyd ymateb.
Ar 19 Hydref, derbyniwyd rhagor o gwynion fod fêps nad oeddent yn cydymffurfio â’r gyfraith yn dal i gael eu gwerthu yn Vape Zone.
Llwyddodd Safonau Masnach i brynu fêp anghyfreithlon fel pryniant prawf ar 30 Hydref er nad oedd y fêps nad oeddent yn cydymffurfio â’r gyfraith yn cael eu harddangos mwyach.
Yr un cynorthwyydd wnaeth ei wasanaethu ag a oedd wedi bod yn bresennol ar bob ymweliad blaenorol.
Yn dilyn prynu’r eitem, aeth swyddogion i mewn i Vape Zone gan egluro’r hyn a oedd wedi digwydd a gofyn ble roedd y stoc.
Cyfeiriodd cynorthwyydd y siop y swyddogion at gwpwrdd cegin cyfagos yn cynnwys 116 o fêps anghyfreithlon arall.
Ymafaelwyd ym mhob un ohonynt. Roedd wyth bocs stoc gwag hefyd (a ymafaelwyd ynddynt hefyd) a fyddai wedi cynnwys 10 fêp yr un. Mae hyn yn golygu bod o leiaf 84 wedi cael eu gwerthu.
Ni ymatebodd y cynorthwyydd siop na’r perchennog i gyswllt gan Safonau Masnach.
Ar 16 Rhagfyr, prynodd cwsmer fêp anghyfreithlon arall o Vape Zone.
Gan ymddangos gerbron yr Ynadon yn Hwlffordd ar 10 Mehefin, cyfaddefodd Jaff bedwar trosedd o dan Reoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 a dau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
Cafodd Jaff, 49 oed o Beaconsfield Street, Hull, ei ddedfrydu i 120 awr o waith di-dâl, 15 diwrnod o weithgaredd adsefydlu a’i wneud yn destun Gorchymyn Cymunedol 12 mis.
Cafodd ei orchymyn hefyd i dalu costau llawn o £2,307.40, ochr yn ochr â gordal dioddefwr o £144, gan ddod â’r cyfanswm i £2,421.40.
Yn dilyn yr achos dywedodd Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro, Jeff Beynon: "Mae fêps nad ydynt yn cydymffurfio â’r gyfraith wedi boddi marchnad y DU ac mae hyn yn fater sy’n llethu awdurdodau Safonau Masnach lleol.
"Mae’r fêps hyn nad ydynt yn cydymffurfio â’r gyfraith, yn cynnwys llawer mwy o nicotin nag y mae Rheoliadau’r DU yn ei ganiatáu. Mae hyn yn peri risg ddifrifol o niwed oherwydd bod nicotin nid yn unig yn gaethiwus iawn, ond mae hefyd yn wenwyn ac mae’r fêps dan sylw yn apelgar iawn i bobl ifanc a phlant.
"Gall nicotin niweidio’r ymennydd sy’n datblygu a gall hefyd gynyddu’r risg o fynd yn gaeth i gyffuriau eraill yn y dyfodol. Mae’r fêps anghyfreithlon a gafodd eu hildio â thanciau 18ml, naw gwaith y terfyn cyfreithiol, gyda naw gwaith uchafswm y nicotin ynddynt.
"O ran fêps anghyfreithlon, mae pryder hefyd nad ydych chi byth yn gwybod beth allai fod ynddyn nhw. Er enghraifft, cafodd fêp ffug ag ymafaeliwyd ynddo gan dîm Safonau Masnach Derby ei brofi mewn labordy annibynnol a gwelwyd ei fod yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, arsenig, plwm a fformaldehyd.