English icon English
Neyland silver award - Gwobr arian Neyland

Gwobr Arian UNICEF i Ysgol Gymunedol Neyland

Silver UNICEF award for Neyland Community School

Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn dathlu ar ôl derbyn gwobr fawr o fri gan UNICEF.

Mae Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau (RRS) yn cael ei dyfarnu i ysgolion sy’n dangos ymrwymiad i hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac sy’n annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau eraill yn yr ysgol.

Caiff y wobr Arian ei dyfarnu i ysgolion sy’n gwneud cynnydd ardderchog tuag at wreiddio egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei ethos a’i gwricwlwm.

Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn ymuno â 1,300 o ysgolion ledled y DU sydd wedi ennill y statws Arian.

Dywedodd y Pennaeth Clare Hewitt: "UNICEF yw sefydliad mwyaf blaenllaw’r byd sy’n gweithio dros blant a’u hawliau ac rwy’n falch iawn o’n llysgenhadon RRS a chymuned yr ysgol am gyflawni ein statws Arian.

"Mae hawliau a lles disgyblion wrth wraidd popeth yr ydyn ni’n ei wneud ac mae’n wych ein bod ni wedi cael ein cydnabod am hyn."

Dywedodd Gemma Morris, Pennaeth Cynorthwyol ac Arweinydd RRS: "Yma yn Ysgol Gymunedol Neyland rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod y plant yn deall bod ganddyn nhw hawliau ac ar gyfer beth y mae’r hawliau hyn.

“Mae hyn wrth wraidd popeth yr ydyn ni’n ei wneud ac yn ganolbwynt iddo. Rydyn ni wedi bod ar daith ryfeddol ac mae’n wych cael ein cydnabod am y wobr Arian."

Nodiadau i olygyddion

Egluryn:

Pennaeth Cynorthwyol ac Arweinydd RRS, Gemma Morris gyda phlant Ysgol Gymunedol Neyland.