English icon English
Rhian Young with Kelly Byrne, CEO of Will Bramble and Legal Wales delegates

Sir Benfro yw’r cyntaf yng ngorllewin Cymru i gynnal cynhadledd gyfreithiol genedlaethol

Pembrokeshire first west Wales’ host of national legal conference

 Roedd Archifau Sir Benfro yn falch iawn o gynnal Cynhadledd Cymru’r Gyfraith 2024 y mis hwn, y tro cyntaf i'r digwyddiad ddod i orllewin Cymru.

Canmolodd y trefnwyr rôl Cyngor Sir Penfro a'i dîm wrth wneud y digwyddiad yn "llwyddiant ysgubol."

Diolchwyd yn arbennig i Kelly Byrne, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, am ei chyfraniad i waith pwyllgor y rhaglen ynghyd â Claire Orr a'r tîm yn yr Archifau am arddangos deunydd o ddiddordeb cyfreithiol.

Mae Cynhadledd Cymru'r Gyfraith, sydd wedi’i chynnal am 21 o flynyddoedd, yn darparu llwyfan ar gyfer cyfraniadau sylweddol i'r ddeialog barhaus ar ddatblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol yng Nghymru, a chyflwr y proffesiwn yn y dyfodol.

Dywedodd Rhian Young Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethiant Cyngor Sir Penfro: "Roeddem yn gyffrous iawn i groesawu cymaint o weithwyr proffesiynol cyfreithiol nodedig i Hwlffordd.

“Roeddem hefyd yn arbennig o falch o gyfraniadau dau aelod o'n tîm; Sam Pitchford sy’n gyfreithiwr a gyfrannodd at drafodaeth banel ar y Porthladd Rhydd Celtaidd a'r clerc, Josh Thomas a rannodd ei brofiadau yn ystod panel ar Brentisiaethau Cyfreithiol.”

Roedd y prif siaradwyr ar y diwrnod yn cynnwys Arglwyddes Brif Ustus Cymru a Lloegr, y Gwir Anrhydeddus Farwnes Carr o Walton-on-the-Hill DBE, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Reed o Allermuir, Llywydd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, Cwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James AS a'r Athro Laura McAllister CBE, Cadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Dywedodd Huw Williams, Aelod o Bwyllgor Gweithredol Cymru'r Gyfraith: "Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol ar bob agwedd, ac mae Archifau Sir Benfro wedi bod yn lleoliad addas a hyblyg iawn ar gyfer dros 160 o gynadleddwyr.”

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey: "Roedd cynnal digwyddiad fel hwn yn wych i Sir Benfro a'r proffesiwn cyfreithiol yn yr ardal. Diolch i bawb a oedd yn gysylltiedig."

Ymunodd aelodau cyfreithiol o Sir Benfro a Cheredigion â'r rhai o bob cwr o Gymru ar gyfer y gynhadledd, a ddilynwyd gan ddigwyddiad gyda'r nos yn Tŷ Milford Waterfront.