Maes y Felin houses Ty

Sir Benfro yw’r gorau yng Nghymru am ddarparu tai fforddiadwy

Pembrokeshire leads Wales in affordable housing delivery

Rhannu:

Mae Sir Benfro wedi'i chydnabod fel yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru am ddarparu tai fforddiadwy fesul 100,000 o aelwydydd, yn ôl ystadegau tai diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyflawni hyn yn dangos ymrwymiad parhaus y sir i gynyddu’r gallu i sicrhau cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol a chefnogi cymunedau ledled Sir Benfro.

Mae adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ddarparu tai ar gyfer 2025/26 yn dangos bod Sir Benfro wedi cofnodi'r gyfradd uchaf o gwblhau tai fforddiadwy fesul 100,000 o aelwydydd o unrhyw ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae'r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu'r ymdrechion sylweddol a wnaed gan bob partner datblygu tai gan gynnwys Cyngor Sir Penfro, Cymdeithasau Tai Ateb, Tai Wales & West, Codi a Barcud, datblygwyr adeiladu tai, a chymunedau lleol i fynd i'r afael ag anghenion tai a darparu cartrefi fforddiadwy i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y sir.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud mewn darparu cartrefi fforddiadwy newydd ledled Sir Benfro. Mae Tîm Cyllido a Chyflwyno Mwy o Gartrefi Llywodraeth Cymru wedi galluogi hyn i ddigwydd gyda symiau mawr o gymorth grant.

Mae'r datblygiadau hyn wedi darparu cymysgedd o gyfleoedd rhentu cymdeithasol, rhent canolradd, a chyfleoedd perchnogaeth cartref cost isel, gan helpu teuluoedd, pobl ifanc, gweithwyr allweddol, a thrigolion hŷn i allu byw mewn cartref addas yn eu cymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai: "Mae hyn yn newyddion rhagorol i Sir Benfro ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad pawb sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy ledled y sir. Mae cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yn parhau i fod yn un o'n blaenoriaethau allweddol, ac rydym yn falch, drwy ein hymdrechion ar y cyd, bod Sir Benfro wedi’i chydnabod fel yr ardal sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran darparu tai fforddiadwy fesul 100,000 o aelwydydd.

"Mae darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel yn hanfodol i gynnal ein cymunedau, cefnogi pobl leol, a galluogi cenedlaethau'r dyfodol i aros o fewn y sir. Er ein bod yn dathlu'r cyflawniad hwn, rydym yn cydnabod bod mwy o waith eto i'w wneud i ddiwallu'r angen am gartrefi a sicrhau bod gan bawb gartref diogel a fforddiadwy."

Trwy gyfuniad o ddatblygiadau newydd, cynlluniau adfywio, a defnydd effeithiol o raglenni cyllido, mae darparu tai fforddiadwy wedi parhau i dyfu ledled y sir.

Yn ogystal â chynyddu'r cyflenwad tai, mae datblygiadau tai fforddiadwy yn cyfrannu at fanteision cymdeithasol ac economaidd ehangach, gan gynnwys cefnogi swyddi adeiladu yn lleol, cryfhau cymunedau, a helpu i fynd i'r afael â’r galw am gartrefi mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd.

Mae Cyngor Sir Benfro yn parhau i fod yn ymrwymedig i ategu’r llwyddiant hwn a pharhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd sy'n diwallu anghenion lleol ac sy'n cyfrannu at gymunedau ffyniannus, cynaliadwy ledled y sir.

Darpariaeth Tai Fforddiadwy: Cyfradd yr holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol a gyflwynwyd fesul 10,000 o aelwydydd, yn ôl ardal awdurdod lleol, Ebrill 2025 i Fawrth 2026:

Siart Cymraeg Awdurdodau Lleol