English icon English
Specsavers Riverside

Ehangu Specsavers yn dangos hyder yn nyfodol Hwlffordd

Specsavers expansion shows confidence in future of Haverfordwest

Mae penderfyniad Specsavers i ehangu i adeiladau mwy yn Hwlffordd yn brawf pellach o hyder busnesau yn nyfodol y Dref Sirol.

Dyna oedd neges Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Paul Miller i newyddion y bydd y cwmni optometreg blaenllaw yn symud i safle mwy yng Nghanolfan Siopa Glan-yr-afon.

Mae Specsavers wedi llofnodi prydles gyda'r Cyngor i ehangu i'r adeilad lle yr oedd Boots a Poundland.

Bydd y lle ychwanegol yn caniatáu ar gyfer 14 o ystafelloedd archwilio â thechnoleg o'r radd flaenaf a fydd yn galluogi Specsavers i ddarparu gwell gwasanaethau golwg, lens gyffwrdd ac awdioleg i’w gwsmeriaid.

Dywedodd y Cynghorydd Miller, sydd hefyd yn Aelod Cabinet y Cyngor dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Specsavers i ehangu a buddsoddi'n sylweddol yn Hwlffordd.

“Mae hyn yn dangos hyder yn Hwlffordd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol sy'n cael ei adfywio'n sylweddol gan Gyngor Sir Penfro.

“Drwy gymryd rheolaeth o Ganolfan Siopa Glan-yr-afon rydym wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad a thenantiaethau yn y dref gan hefyd adennill buddsoddiad y Cyngor i brynu'r safle.

“Ochr yn ochr â'r newyddion gwych bod y cwmni bwyd a diod blaenllaw, Loungers, yn symud i mewn i'n datblygiad yng Nglannau'r Cei Gorllewinol, rwy'n hyderus y bydd rhagor o fusnesau yn cael eu denu i ganol y dref.

“Bydd y gwaith rydym yn ei wneud yn sicrhau bod Hwlffordd yn lle deniadol i fusnesau weithredu ac yn lle gwych i bobl fyw, gweithio ac ymweld ag ef."

Dywedodd Andy Britton, un o bartneriaid y siop dan berchnogaeth leol: "Rydym mor falch o fod yn symud i adeiladau mwy. Bydd y lle ychwanegol yn ein galluogi i ddarparu'n well ar gyfer y galw cynyddol am brofion llygaid a chlinigau awdioleg yn yr ardal a helpu i dynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar y GIG.

“Bydd y siop newydd yn agor yn ddiweddarach eleni ac edrychwn ymlaen at ddathlu ei lansiad gyda chwsmeriaid hen a newydd."

Nodiadau i olygyddion

Llun:

Edrych i'r dyfodol: Y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro (canol) gydag Andy Britton (chwith) a'i gyd-bartner Wayne Jones yn siop Glanyrafon a fydd yn gartref i Specsavers estynedig.