English icon English
Denmark Street Band - Band Stryd Denmarc

Noson anhygoel o gerddoriaeth yn Ysgol Greenhill

Spectacular evening of music at Ysgol Greenhill

Gall pobl sy'n hoff o gerddoriaeth fwynhau noson wych o adloniant yn Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod yr wythnos nesaf, gyda thalent yn syth o'r West End.

Bydd y Denmark Street Big Band yn arwain y noson ddydd Gwener, 4 Ebrill.

Mae'r dathliad cerddorol hefyd yn nodi lansiad Theatr Ysgol Greenhill i hyrwyddo a chefnogi'r celfyddydau yn yr ysgol ymhellach ac arddangos doniau pobl ifanc.

Mae’r Denmark Street Big Band yn mynd a ni yn ôl i pan oedd bandiau mawr cyffrous yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ac yn ail-greu'r synau swing a wnaed yn enwog gan bobl fel Frank Sinatra a Dean Martin.

Ar ôl perfformio'n rheolaidd ar gylchdaith gerddoriaeth Llundain, mae’r Denmark Street Big Band yn dod â'i sioe i Greenhill a bydd yn camu i'r llwyfan gyda'r ffefrynnau lleol Côr Meibion Dinbych-y-pysgod fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Côr yn 50 oed.

Bydd gwestai arbennig o'r West End hefyd yn ymuno â'r Côr i berfformio.

Denmark Street poster CYM - Poster Band Stryd Denmarc - Cymraeg

Mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle i arddangos talent anhygoel yr ysgol a rhoi cyfle i ddisgyblion chwarae ochr yn ochr â pherfformwyr proffesiynol.

Uchafbwynt arall fydd cipolwg ar gynhyrchiad mawr yr ysgol, Chitty Chitty Bang Bang, fydd yn dychwelyd yr haf hwn.

Dyma'r cynhyrchiad cyntaf yn yr ysgol mewn chwe blynedd ac mae'r paratoadau ar y gweill.

Cynhelir y digwyddiad yn Ysgol Greenhill ddydd Gwener, 4 Ebrill o 7pm. Prisiau tocynnau yw £18 i oedolion a £16 i gonsesiynau.

Am docynnau, gweler https://www.ticketsource.co.uk/ a chwiliwch am Ysgol Greenhill neu cysylltwch â'r ysgol ar 01834 840100.