Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro yn dathlu 20 mlynedd – enwebwch nawr
Sport Pembrokeshire Awards celebrate 20 years – get your nominations in now
Mae paratoadau ar y gweill i ddathlu blwyddyn arall o gyflawniadau chwaraeon rhagorol ledled Sir Benfro.
Mae’n garreg filltir arbennig eleni, wrth i Wobrau Chwaraeon Sir Benfro ddathlu eu pen-blwydd yn 20 oed.
Bydd y gwobrau mawreddog yn dychwelyd i Folly Farm ddydd Gwener, Tachwedd 27, 2026, gan ddod â chymuned chwaraeon y sir at ei gilydd i gydnabod llwyddiant, ymroddiad ac ysbrydoliaeth ar y cae ac oddi arno.
Mae enwebiadau ar gyfer categorïau’r gwobrau yn agor heddiw, sef dydd Llun, Medi 7, gan roi cyfle i drigolion dynnu sylw at yr athletwyr, timau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r categorïau’n cydnabod cyflawniadau unigolion a thimau ym maes chwaraeon, yn ogystal ag ymrwymiad hyfforddwyr, trefnwyr a gwirfoddolwyr sy'n hanfodol i chwaraeon cymunedol ledled Sir Benfro.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Mae’n gyflawniad gwych bod Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 20 oed, ac yn dyst i gryfder chwaraeon ledled ein sir.
"Am ddau ddegawd, mae'r gwobrau hyn wedi dathlu rhagoriaeth ar bob lefel, o athletwyr ifanc sy'n cymryd eu camau cyntaf mewn chwaraeon i unigolion sydd wedi neilltuo blynyddoedd o wasanaeth i'w clybiau a'u cymunedau.
"Rydyn ni’n edrych ymlaen at noson gofiadwy arall yn Folly Farm ac yn gobeithio gweld y nifer mwyaf erioed o enwebiadau wrth i ni gydnabod y dalent a'r ymrwymiad anhygoel sy'n bodoli ym maes chwaraeon ledled Sir Benfro."
Mae'r enwebiadau'n cau ddydd Sul, Hydref 11, 2026.
Diolch unwaith eto i noddwyr y Gwobrau, Valero, Pure West Radio a Folly Farm, y mae eu cefnogaeth barhaus yn helpu i sicrhau y gall y dathliad hwn o chwaraeon Sir Benfro barhau i ffynnu.
Gellir gwneud enwebiadau ar-lein:
Mae'r categorïau gwobrau fel a ganlyn:
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Gorchest Chwaraeon i Fenywod
- Gorchest Chwaraeon i Ddynion
- Gorchest Chwaraeon i Fechgyn (Dan 16)
- Gorchest Chwaraeon i Ferched (Dan 16)
- Gwobr Chwaraeon Anabledd
- Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (Dan 16)
- Arwr Tawel
- Trefnydd Clwb y Flwyddyn
- Gorchest Tîm y Flwyddyn
- Gorchest Tîm Iau (Dan 16) y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Clwb y Flwyddyn
- Cyflawniad Oes
Gwobr ychwanegol a fydd yn cael ei chyhoeddi ar y noson yw'r Wobr Ysgolion, sy'n cydnabod ysgol leol sy'n gweithio'n arbennig o galed i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hwyl, yn gynhwysol ac yn arloesol, wrth feithrin cysylltiadau cryf â'r gymuned leol.
Gallwch enwebu nawr yn: https://www.pembrokeshire.gov.uk/forge/index.asp?x=9CFA08EC34