English icon English
Chwaraeon 2024 Sir Benfro Camrose

Cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro

Sport Pembrokeshire Awards Finalists announced

 Mae enwau’r unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2025 wedi’u cyhoeddi.

Mae’r panel beirniadu wedi enwi 39 o unigolion a fydd yn mynd ymlaen i rownd derfynol y Gwobrau yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi anfon enwebiadau. Mae’r panel beirniadu wedi wynebu tasg anodd iawn o ddewis yr enwebiadau i’r rownd derfynol.

“Mae Sir Benfro’n rhagori ym maes chwaraeon ac rwy’n siŵr y bydd y Gwobrau’n ddathliad arall o gyflawniadau pencampwyr a gwaith tu ôl i’r llenni gan wirfoddolwyr a hyfforddwyr dirifedi.”

Bydd yr enwau sydd wedi dod i’r brig yn cael eu datgelu mewn seremoni gala yn Folly Farm ar 28 Tachwedd, sy’n cael ei threfnu gan Chwaraeon Sir Benfro.

Noddir y gwobrau gan Valero, Folly Farm, a Pure West Radio. 

Bydd y seremoni hefyd yn datgelu enillwyr tair categori arall - Gwobr Ysgolion, Gwobr Llwyddiant Oes a Gwobr Llwyddiant Arbennig y Cadeirydd. 

Nod y gwobrau yw cydnabod y bobl hynny sydd wedi rhagori mewn chwaraeon dros y 12 mis diwethaf, neu sydd wedi rhoi o’u hamser i hyfforddi a threfnu chwaraeon ar lawr gwlad.  

Dyma’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn nhrefn yr wyddor:

Merched dan 16

  1. Mary Falconer (Dringo)
  2. Cerys Griffiths (Nofio)
  3. Ava Tyrie (Crefft ymladd cymysg)

Bechgyn dan 16

  1. Conor Cremona (Codi pwysau)
  2. Elijah Jones (Syrffio)
  3. Ned Rees-Wigmore (Hoci)

Clwb y Flwyddyn

  1. Clwb Chwaraeon Caeriw
  2. Clwb Pêl-rwyd Chaos
  3. Clwb Hoci Aberdaugleddau

Gwobr Anabledd Iau

  1. Jake Evans (Clwb Rygbi Llangwm)
  2. Jack Gray (Thunderbolts Abergwaun)
  3. Ella Meacham (Chwaraeon Dŵr Windswept)

Gwirfoddolwr Iau’r Flwyddyn

  1. Enfys Battelley-de Torres (Clwb Pêl-droed Camros)
  2. Alannah Field (Clwb Hoci Abergwaun ac Wdig)
  3. Alannah Heasman (Ysgol Uwchradd Hwlffordd / Coleg Sir Benfro))

Tîm Iau

  1. Tîm crefft ymladd cymysg Iau BJJ Sir Benfro
  2. Tîm rygbi merched blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd
  3. Tim dan 14 oed Clwb Pêl-droed Pontfadlen

Arwr Di-glod

  1. Sarah Bagley (Chwaraeon Dŵr Windswept)
  2. Geoff Daye (Clwb Criced Llandyfái)
  3. Jenny Lewis (Clwb Pêl-droed Clarbeston Road)

Tîm Hŷn

  1. Clwb Bowlio Mat Byr Tregwilym Ddwyrain
  2. Clwb Hoci Merched Abergwaun ac Wdig
  3. Clwb Hoci Sir Benfro – Tîm Merched Cyntaf

Cyflawniad gan Ddyn

  1. Llew Bevan (Dartiau)
  2. Liam Bradley (Triathlon)
  3. Reuben Lerwill (Gymnasteg)

Cyflawniad gan Fenyw

  1. Sanna Duthie (Rhedeg)
  2. Ria Jones (Jiwdo)
  3. Amelia Nuttall (Hwylio)

Gwobr Chwaraeon Anabledd

  1. Rachel Bailey (Boccia)
  2. Evelyn Thomas (Codi pwysau)
  3. Hannah Webster (Crossfit)

Trefnydd Clwb

  1. Huw Jones (Clwb Golff Hwlffordd)
  2. Leanne Jones (Clwb Pêl-droed Camros)
  3. Silfan Rhys-Jones (Clwb Tenis Bwrdd Abergwaun)

Hyfforddwr y Flwyddyn

  1. Jamie Barrellie (Tîm Rygbi Merched Siarcod Dinbych-y-pysgod)
  2. Rob Codd (Clwb Hoci Abergwaun ac Wdig)
  3. James North (Clwb Pêl-droed Cilgeti)

Nodiadau i olygyddion

Clwb Pêl-droed Merched a Merched Ifanc Camrose. Terfynwyr yn y categori Clwb y Flwyddyn