Sport Pembs Award logo - Logo Gwobr Chwaraeon Sir Benfro

Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro

Sport Pembrokeshire Awards finalists announced

Rhannu:

Mae'r 39 enw ar restr fer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2026 wedi'u datgelu yn dilyn ymateb rhagorol i'r enwebiadau eleni.

Derbyniwyd mwy na 200 o enwebiadau yn y flwyddyn y byddwn yn dathlu 20 mlynedd o gynnal y gwobrau, sy’n dangos bod yna dalent chwaraeon, ymroddiad ac ysbryd cymunedol aruthrol ledled Sir Benfro.

Mae'r gwobrau mawreddog yn parhau i fynd o nerth i nerth a byddant yn dychwelyd i Folly Farm ddydd Gwener, 27 Tachwedd ar gyfer y noson gyflwyno, lle bydd yr enillwyr a'r ail ym mhob categori yn cael eu cyhoeddi.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion Cyngor Sir Penfro: "Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni. Mae cyrraedd y tri olaf mewn unrhyw gategori yn gyflawniad aruthrol ac yn cydnabod y gwaith caled, yr ymrwymiad a'r llwyddiant a ddangoswyd trwy gydol y flwyddyn.

"Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd ers dechrau Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro, mae'n wych gweld cymaint o unigolion, timau, clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ysbrydoledig yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad i chwaraeon yn ein sir.

"Rydym yn edrych ymlaen at noson gofiadwy i ddathlu cyflawniadau ein cymuned chwaraeon a diolch i bawb sy'n helpu i wneud i chwaraeon ffynnu ledled Sir Benfro."

Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi'u dewis ar draws 13 categori sy'n cydnabod cyflawniad chwaraeon, hyfforddi, gwirfoddoli, datblygu clybiau a chwaraeon anabledd.

Bydd y seremoni hefyd yn datgelu enillwyr dau gategori arall - Gwobr Cyflawniad Bywyd a Gwobr Cyflawniad Arbennig y Cadeirydd.

Yr enwau ar gyfer rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2026 (yn nhrefn yr wyddor) yw:

Cyflawniad Chwaraeon Merched (Dan 16)

Mari Cole

Isabelle Nuttall

Ava Tyrie

Cyflawniad Chwaraeon Bechgyn (Dan 16)

Iolo Bool

Ioan Bromby

Filip Noga

Clwb y Flwyddyn

Pêl-droed Cerdded Clwb Pêl-droed Hwlffordd

Clwb Criced Llandyfái

Clwb Achub Bywyd Syrffio Traeth Poppit

Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau

Lewis Crawford

Wilson Mills McBeth

Luca Morrillo

Gwobr Chwaraeon Anabledd

Michael Jenkins

Evelyn Thomas

Hannah Webster

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn

Mason Briskham

Hyfforddwyr Iau Clwb Pêl-droed Camros

Mia Oughton

Cyflawniad Tîm Iau (Dan 16) y Flwyddyn

Greenhill High Flyers

Rygbi Merched Eryrod Hwlffordd

Clwb Pêl-droed Bechgyn Merlins Bridge dan 13

Arwr Tawel

Jennifer Harvey

Les James

Keith Jones

Cyflawniad Tîm y Flwyddyn

Merched Rygbi Panthers Penfro

Rink Sir Benfro (Jonathan, Alan, Andrew a Michael)

Tîm 1af Clwb Criced Saundersfoot

Cyflawniad Chwaraeon Gwrywaidd

Finley Bennett

Kyle Collela

Dexter West

Cyflawniad Chwaraeon Benywaidd

Nansi Griffiths

Chloe John-Driscoll

Nia Thomas

Trefnydd Clwb y Flwyddyn

Kelly Ellis

Andrew Skeels

Steve Williams

Hyfforddwr y Flwyddyn

John Court

Mathew Lewis

Stuart Tyrie.