English icon English
2024 Sport Pembs 4 - Chwaraeon Sir Benfro 4

Caiff enwebiadau Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro eu cau yn fuan

Sport Pembrokeshire Awards nominations closing soon

Mae'r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro yn agosáu'n gyflym.

Anogir unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno enw chwaraewr, hyfforddwr, clwb, tîm neu sefydliad ar gyfer unrhyw un o'r categorïau i wneud hynny cyn y dyddiad cau sef dydd Sul 12 Hydref.

Bydd y gwobrau'n cael eu cynnal yn Folly Farm ddydd Gwener 28 Tachwedd.

Categorïau’r gwobrau yw:

  • Hyfforddwr y Flwyddyn
  • Gorchest Chwaraeon i Fenywod
  • Gorchest Chwaraeon i Ddynion
  • Gorchest Chwaraeon i Ferched (dan 16 oed)
  • Gorchest Chwaraeon i Fechgyn (dan 16 oed)
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (Dan 16)
  • Gorchest Tîm y Flwyddyn
  • Gorchest Tîm Iau
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
  • Yr Arwr Tawel
  • Trefnydd Clwb y Flwyddyn
  • Clwb y Flwyddyn
  • Llwyddiant Oes

Diolch unwaith eto i noddwyr y Gwobrau, Valero, Pure West Radio a Folly Farm am sicrhau y gallwn barhau i ddathlu chwaraeon Sir Benfro.

I wneud enwebiad, ewch i: https://www.pembrokeshire.gov.uk/forge/index.asp?x=336DEC64E3&lang=eng