Chwaraeon Sir Benfro yn cynnal digwyddiad clybiau cymunedol llwyddiannus yn Hwlffordd
Sport Pembrokeshire hosts successful Community Clubs event in Haverfordwest
Croesawodd Chwaraeon Sir Benfro fwy na 130 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 i’w ddigwyddiad clybiau cymunedol yn Hwlffordd, a gynhaliwyd ddydd Iau 7 Mai yng Nghlwb Tenis Hwlffordd.
Daeth y digwyddiad â phlant o Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton, Ysgol Mair Ddihalog, Ysgol Redhill, Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru San Marc ac Ysgol Gynradd Waldo Williams ynghyd am fore o hwyl, gweithgareddau a chyfle i ddarganfod pethau newydd.
Cafodd disgyblion y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o sesiynau chwaraeon a gyflwynwyd gan glybiau lleol.
Roedd y gweithgareddau'n cynnwys tenis gyda Chlwb Tenis Hwlffordd, criced gyda Chlwb Criced Hwlffordd, bowlio gyda Chlwb Bowlio Hwlffordd, pêl-fasged gyda Chlwb Pêl-fasged Tritons a golff gyda Chlwb Golff Hwlffordd.
Cefnogwyd y sesiynau gan Lysgenhadon Ifanc brwdfrydig o Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, a chwaraeodd ran bwysig wrth helpu i gyflwyno'r gweithgareddau ac annog cyfranogiad.
Nod y digwyddiad oedd cyflwyno cyfleoedd chwaraeon lleol i blant a'u hysbrydoli i gymryd rhan mewn clybiau cymunedol. Roedd yn darparu amgylchedd cynhwysol lle gallai pob un a gymerodd ran roi cynnig ar rywbeth newydd a magu hyder trwy chwaraeon.
Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: “Roedd yn hyfryd gweld cymaint o blant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau difyr a chynhwysol.
“Cafodd pawb amser gwych ac rydym yn gobeithio bod rhai plant bellach ag angerdd newydd ac y byddan nhw’n ymuno â chlwb lleol o ganlyniad i heddiw.
“Diolch yn fawr i’r holl ysgolion a gymerodd ran, yr hyfforddwyr a gyflwynodd y sesiynau a’r Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd Hwlffordd am eu cymorth, yn ogystal â Morrisons a Princes Gate am ddarparu lluniaeth yn garedig iawn.”
Hoffai Chwaraeon Sir Benfro hefyd ddiolch yn arbennig i noddwr y digwyddiad, Valero, am eu cefnogaeth werthfawr wrth wneud digwyddiadau fel hyn yn bosibl.
Unwaith eto, tynnodd y digwyddiad sylw at gryfder chwaraeon cymunedol yn Sir Benfro a’r buddion o gydweithio rhwng ysgolion, clybiau a phartneriaid i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl i gymryd rhan.