
Tîm Chwaraeon Sir Benfro yn gweddnewid clwb criced ar Ddiwrnod y Tasglu
Sport Pembrokeshire Team bowl cricket club over with Task Force Day efforts
Cafodd Clwb Criced Hwlffordd haen newydd o baent wrth iddo ddod y sefydliad diweddaraf i gael ei gefnogi gan Ddiwrnod Tasglu Blynyddol Tîm Chwaraeon Sir Benfro.
Wedi'i noddi gan Valero, ac yn ei wythfed flwyddyn, mae Diwrnod y Tasglu yn ffordd fach o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned gref o glybiau chwaraeon ac ymarfer corff yn Sir Benfro.
Yn addas ar gyfer y Cae Ras, cafwyd rhai strôcs hyfryd wrth i Dîm Chwaraeon Sir Benfro brysuro i baentio ystafelloedd newid y clwb.
Gwnaeth gwirfoddolwyr y clwb ymuno yn y gwaith hefyd i dwtio cyntedd y fynedfa i'r clwb ei hun.
Dywedodd Matt Freeman, Arweinydd Tîm Chwaraeon Sir Benfro: "Roeddem yn falch o gefnogi Clwb Criced Hwlffordd fel rhan o Ddiwrnod y Tasglu.
"Mae'r clwb yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cynhwysol yn amrywio o Sêr Anabledd – y clwb cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gynnal menter o'r fath, i griced menywod a merched i’r criced traddodiadol a gynigir i bob grŵp oedran iau ac oedolion.
"Mae'r clwb yn cael ei gefnogi gan rwydwaith o wirfoddolwyr sy'n llywodraethu ac yn hyfforddi'r clwb i gefnogi nid yn unig chwaraewyr iau ac aelodau hanfodol y clwb ond hefyd y timau hŷn."
Dywedodd Alex Rowell, Ysgrifennydd Clwb Criced Hwlffordd: "Mae bob amser yn wych cael cefnogaeth gymunedol, ac mae Diwrnod Tasglu Cyngor Sir Penfro yn ddiweddar wedi rhoi hwb go iawn i'r Clwb.
"Mae ail-baentio a'r golwg newydd ffres i'n hystafelloedd newid a'n prif goridor wedi cael effaith fawr; sylwodd ein chwaraewyr a'n haelodau ar unwaith, ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb wnaeth gymryd rhan am eu help."
Dywedodd Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero: "Mae Valero bob amser wedi ymrwymo i gefnogi chwaraeon cymunedol yn Sir Benfro ac roeddem yn falch iawn o noddi Diwrnod y Tasglu eleni.
"Rydym yn diolch i dîm Chwaraeon Sir Benfro am eu hymdrechion sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Glwb Criced Hwlffordd."