English icon English
county hall river

Datganiad gan y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu

Statement by Cllr Tessa Hodgson, Cabinet Member for Social Care and Safeguarding

Yn dilyn cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plant heddiw dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu: 

Yn gyntaf, hoffai Cyngor Sir Penfro gyfleu ei gydymdeimlad dwysaf i deulu Lola James ac i bawb sydd wedi eu heffeithio gan ei llofruddiaeth, dros 4 blynedd yn ôl. 

Mae'r broses adolygu hon, yr ydym wedi ymgysylltu'n llawn ac yn agored ynddi, ynghyd â'n partneriaid amlasiantaeth yr ydym yn rhannu cyfrifoldebau diogelu â nhw, wedi bod yn gyfle i'r awdurdod lleol fyfyrio ar ei ymarfer a dysgu o'r sylwadau yn yr adroddiad annibynnol.

Hoffem gydnabod ymrwymiad a chyfraniad sylweddol y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y broses adolygu, ac sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r teulu dros y 4 blynedd diwethaf.

Mae'r awdurdod lleol yn cymryd ei ddyletswyddau o ddifrif o fewn y maes diogelu, ac yn pennu amddiffyn a chefnogi y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn flaenoriaeth allweddol.

Er y byddem bob amser yn gwneud pob ymdrech i ddangos arfer da, mae lle i wella bob amser a bydd y cyfleoedd y mae'r adolygiad hwn wedi'u cynnig i ni, yn ein galluogi i wella sut rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc agored i niwed yn y dyfodol. Cyn cyhoeddi'r adroddiad heddiw, roeddem wedi datblygu cynllun gweithredu i ddelio â'r materion y mae'r adolygiad wedi'u codi i ni, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn erbyn y cynllun hwnnw eisoes.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi sefydlu bwrdd gwella gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys ymhlith ei aelodaeth, gwleidyddion a etholwyd yn lleol, uwch swyddogion ac arbenigwr annibynnol allanol. Bydd y bwrdd hwn yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni yn erbyn y camau gweithredu o fewn y cynllun hwnnw, gyda chynnydd hefyd yn cael ei adrodd i bwyllgorau craffu awdurdodau lleol a chyfarfodydd cabinet.

Gobeithiwn hefyd y bydd yr adroddiad yn cyfrannu at ddysgu a gwella parhaus ehangach mewn perthynas â nifer o faterion diogelu allweddol ar draws pob asiantaeth sydd â chyfrifoldebau diogelu yn rhanbarth Gorllewin Cymru a thu hwnt. Mae'n hanfodol ein bod yn manteisio ar bob cyfle i wella ein gwasanaethau, a sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth o'r ansawdd gorau sydd ar gael.'

Unwaith eto, hoffai Cyngor Sir Penfro estyn ei gydymdeimlad dwysaf i'r teulu a phawb oedd yn adnabod Lola.'

Gellir gweld yr adroddiad yn: https://cysur.cymru/adolygiadau-ymarfer-plant-cprs/cysur-1-2021-adolygu-ymarfer-plant-cryno/