Dirwyon mawr i ffermwyr a oedd wedi cadw gwartheg ag adweithyddion TB buchol ar y fferm yn fwriadol
Substantial fines for farmers who knowingly kept cattle with bovine TB reactors on farm
Mae tri aelod o deulu ffermio yn Sir Benfro wedi cael eu dedfrydu am newid tagiau clustiau gwartheg yn fwriadol; gweithredoedd a welodd anifeiliaid ag adweithyddion Twbercwlosis (TB) buchol yn aros ar y fferm.
Mae twbercwlosis buchol yn filhaint a all effeithio ar nifer o rywogaethau, gan gynnwys pobl ac anifeiliaid gwyllt, er bod achosion o drosglwyddo TB i bobl yn anghyffredin iawn yn y DU o ganlyniad i fesurau rheoli sydd mewn grym yn y diwydiant amaeth a’r diwydiant bwyd.
Roedd gweithredoedd Edward, Charles a Henry Hartt yn dangos anghyfreithlondeb ar raddfa eang, ac yn achosi risg annerbyniol a difrifol i iechyd anifeiliaid.
Mae’r teulu Hartt yn rhedeg fferm odro ac eidion fawr - EW Hartt & Sons - yn Longford Farm, Clunderwen, ac mae ganddynt tua 2800 o wartheg.
Cafodd y tri dyn eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, 4 Mawrth am droseddau wedi’u cyflawni dan Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007; deddfwriaeth sy’n sail i reoli gwartheg, rheoli clefydau a systemau olrhain a roddwyd ar waith er mwyn sicrhau diogelwch y diwydiant ffermio yn ei gyfanrwydd.
Roedd y tri diffynnydd eisoes wedi pledio’n euog i 12 cyfrif ar 25 Mawrth, 2022.
Clywodd y llys y byddai gwartheg uwch eu gwerth a oedd wedi cael prawf TB positif yn cael eu prisio ar gyfer iawndal ond yn cael eu cadw ar y fferm, ac anifeiliaid is eu gwerth yn cael eu hanfon i’r lladd-dy yn eu lle.
Roedd hyn yn golygu bod anifeiliaid a oedd wedi eu heintio wedi cael eu cadw ar y fferm â risg sylweddol o ledaenu’r clefyd i anifeiliaid eraill a rhoi llwyddiant y rhaglen gwaredu bTB yn y fantol.
Byddai eu cadw yn sicr wedi caniatáu i’r clefyd barhau ar y fferm, gan arafu cynnydd y broses waredu yn y fuches a’r boblogaeth wartheg yn gyffredinol a chynyddu costau i Lywodraeth Cymru a’r trethdalwr.
Byddai hyn hefyd wedi arwain at ladd anifeiliaid iach nad oeddent mewn gwirionedd wedi eu heintio â TB.
Dyfarnwyd hefyd y byddai cyfran o laeth y fferm wedi dod o adweithyddion bTB a ddylai fod wedi cael eu symud o’r daliad. O dan y ddeddfwriaeth diogelwch bwyd mae llaeth o’r fath yn cael ei atal rhag mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
Pan fyddai gwartheg salach yn profi'n bositif, roedd tystiolaeth yn dangos eu bod yn cael eu hamnewid adeg prisio am anifeiliaid gwerth uwch, gan ddenu lefel uwch o iawndal, ond yna byddai'r anifeiliaid mwy gwerthfawr yn cael eu cadw a'r adweithyddion TB gwerth is yn cael eu hanfon i'w lladd.
Cafodd pob diffynnydd ddirwy o £24,000, £2,000 am bob cyfrif ar y ditiad yn erbyn pob diffynnydd.
Roedd y dedfrydau yn adlewyrchu mwy o risg o TB o ganlyniad i gadw adweithyddion ar y fferm, briwiau TB yn bresennol mewn gwartheg a risg amlwg y gallai anifeiliaid â manylion adnabod anghywir fod wedi mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
Yn ogystal â’r ddirwy fawr, cymerwyd camau cysylltiedig yn erbyn y diffynyddion dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002.
Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon â’r nod o adennill asedau, gan gynnwys arian, a enillwyd drwy weithgarwch troseddol.
Mae defnyddio’r Ddeddf Enillion Troseddau yn addas iawn pan mae mor amlwg, er budd y cyhoedd, bod angen sicrhau nad yw gweithgarwch troseddol yn cael ei wobrwyo.
Byddai’r budd troseddol yn gysylltiedig â’r troseddau wedi’i gael drwy ddulliau amrywiol.
Roedd hyn yn cynnwys taliadau iawndal TB, gwerthu stoc anghyfreithlon, gwerthu llaeth o stoc wedi’u cadw’n anghyfreithlon, yn ogystal â buddion ehangach a ddaeth i ran y busnes ffermio.
Roedd gweithredoedd y teulu Hartt wedi eu galluogi i ehangu’r busnes yn raddol ac yn gyson, a’i roi ar sylfaen ariannol gryfach, ar draul ffermydd eraill mewn marchnad gystadleuol.
Arweiniodd hyn at orchmynion atafaelu gwerth £217,906 yn erbyn pob diffynnydd ar y cyd ac yn unigol i adlewyrchu’r ‘budd troseddol’ yn gysylltiedig â’r troseddu.
Dyfarnodd y llys hefyd gostau’r Cyngor, sef £94,569.
Roedd yr achos a ddygwyd gan Gyngor Sir Penfro yn dilyn ymchwiliad manwl gan swyddogion o Dîm Gwarchod y Cyhoedd ac Iechyd a Lles Anifeiliaid y Cyngor, a fu’n gweithio ar y cyd â swyddogion milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a phartneriaid rheoleiddio eraill.
Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl canfod anghysondebau ar y fferm ym mis Mehefin 2019.
Roedd yr ymchwiliadau dilynol yn gymhleth ac yn ymestyn dros weddill y flwyddyn, gan gynnwys nifer o archwiliadau ac ymweliadau, cymryd samplau DNA o wartheg godro, archwilio a chroesgyfeirio cofnodion fferm yn fanwl, gwirio tagiau clustiau a marciau rhewfrandio (marciau ar yr anifail), post-mortemau a samplau gwaed.
Mewn un achos y cyfeiriodd y Barnwr ato, roedd marc rhewfrandio buwch odro wedi ei newid.
Darganfuwyd yn ddiweddarach bod ei thagiau clust wedi eu newid ddwywaith. Profodd prawf DNA yn ddiweddarach y dylai’r anifail fod wedi gadael y fferm cyn hynny.
Allan o 828 o anifeiliaid a wiriwyd fel rhan o’r ymchwiliad, roedd gan 123 anghysondebau yn ymwneud â’u tarddiad a’u manylion adnabod, a oedd yn cyfateb i 15% o’r stoc.
Roedd maint a natur y materion tagio a’r newidiadau bwriadol i fanylion adnabod yn fwy nag unrhyw beth yr oedd y swyddogion wedi ei weld o’r blaen, ac roedd yn annhebygol iawn o fod yn wall neu gamgymeriad.
Darganfuwyd yn ddiweddarach bod y fferm wedi derbyn llawer iawn mwy o daliadau iawndal TB na’r rhan fwyaf o ffermydd eraill.
Roedd y fferm yn un o ddwy yn unig yng Nghymru lle mae TB wedi bod yn bresennol ers dros 20 mlynedd. Er 2009 roedd y fferm wedi derbyn dros £3 miliwn mewn taliadau iawndal - mwy nag unrhyw fferm arall yng Nghymru.
Dadleuodd yr erlyniad fod yr anghyfreithlondeb ar raddfa fawr wedi cynnal sylfeini’r busnes ffermio yn ei gyfanrwydd dros gyfnod sylweddol.
Ym mis Rhagfyr 2019, fe wnaeth swyddogion milfeddygol yr Asiantaeth Safonau Bwyd atal 19 carcas ac offal/cyd-gynhyrchion bwytadwy cysylltiedig o ddwy lot o wartheg a anfonwyd i’w lladd gan y fferm, ac a oedd ar eu ffordd i gadwyn fwyd pobl.
Roedd hyn oherwydd anghysonderau yn ymwneud â manylion adnabod a tharddiad rhai anifeiliaid a goblygiadau posibl i’r gadwyn fwyd.
Ar ôl i’r achos llys ddod i ben, dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod o’r Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio, ei bod yn croesawu maint y ddedfryd.
Dywedodd: “Bydd yr achos hwn wedi arwain at gost ddiangen a threth ar adnoddau’r rhai sy’n ymwneud â’r rhaglen gwaredu TB, gan gynnwys defnydd mawr o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r gwaith o weithredu’r cynllun iawndal.
“Mae hefyd yn achosi risg fawr i iechyd buchesi cyfagos drwy halogi’r amgylchedd yn ddiangen yn ogystal â gwneud drwg i’r diwydiant ffermio ac i hyder y cyhoedd yn niogelwch llaeth a chig.
“Rwy’n llongyfarch swyddogion y Cyngor a’r holl asiantaethau am ddod â’r achos hwn i’r llys yn llwyddiannus gan obeithio y bydd yr achos hwn a’r ddedfryd yn rhoi neges na chaiff ymddygiad anghyfreithlon o’r math yma ei oddef.”
Nodiadau i olygyddion
Ymchwiliad dan y Ddeddf Enillion Troseddau
Cafodd yr ymchwiliad a’r camau dan y Ddeddf Enillion Troseddau eu cefnogi gan Ymchwilwyr Ariannol Achrededig a gyflogir yn Uned Troseddau Ariannol Cyngor Sir Caerfyrddin yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n bodoli. Bydd yr Uned yn derbyn cyfran hafal o’r enillion a delir i’r rheoleiddiwr. Mae’r achos dan y Ddeddf Enillion Troseddau yn mynd â’r elw allan o weithgarwch troseddol, a chaiff yr enillion a ddychwelir i’r rheoleiddiwr eu defnyddio i helpu i ariannu cynlluniau gorfodi eraill.
Roedd y camau a gymerwyd dan y Ddeddf Enillion Troseddau yn canolbwyntio ar ganlyniadau ffermio mwy uniongyrchol y gweithredu troseddol a nodwyd, lle’r oedd y gydberthynas agosaf rhwng y gweithredoedd a’r incwm a dderbyniwyd, yn ymestyn yn ôl i 12 Mai 2015, sef y cyfnod perthnasol a ganiateir gan y Ddeddf.
Yn ystod y cyfnod hwn roedd gan y busnes drosiant o dros £23 miliwn, â thua £12 miliwn o werthu llaeth ac £1.7 miliwn o werthu stoc ar gyfer prosesu cig.
Roedd y fferm wedi elwa o fwy na £2.8 miliwn o arian cyhoeddus a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, tua £2 miliwn ohono wedi’i dderbyn dan y Cynllun Iawndal TB yn ogystal â £0.7 miliwn fel rhan o Gynllun y Taliad Sylfaenol.
TB buchol a rheoli a gwaredu
Roedd gan y fferm dros 2800 o wartheg ac roedd wedi bod dan gyfyngiadau TB er 2002, a’r stoc yn gorfod cael eu profi’n rheolaidd er mwyn helpu i atal lledaeniad niweidiol y clefyd.
Caiff anifeiliaid wedi’u heintio sy’n adweithio i’r profion eu hynysu, eu symud o’r daliad, a’u lladd a thelir iawndal fel rhan o gynllun iawndal Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar brisiad annibynnol.
Mae llwyddiant y rhaglen yn dibynnu ar ynysu gwartheg sydd wedi eu heintio ar unwaith a’u symud o’r daliad yn fuan, cyn iddynt basio’r haint ymlaen i anifeiliaid eraill, gan gynnwys gwartheg eraill yn y fuches, anifeiliaid mewn buchesi cyfagos eraill, anifeiliaid gwyllt neu’r amgylchedd.
Mae anifeiliaid sy’n cael prawf positif yn dod yn eiddo i’r wladwriaeth ar ôl iddynt gael eu prisio, ac mae’r wladwriaeth yn derbyn y cyfrifoldeb am eu symud a’u lladd.
Cânt eu cymryd i ladd-dai arbenigol sydd ag offer i ymdrin â gwartheg o’r fath, lle gwneir archwiliadau post-mortem manwl gan staff sydd wedi’u hyfforddi i wneud hynny.