Archfarchnad yn cael dirwy o £36000 am roi bwyd anniogel ar werth
Supermarket chain fined £36,000 for placing unsafe food on the market
Mae cwmni wedi cael dirwy o £36,000 ar ôl i Swyddogion Cyngor Sir Penfro ddarganfod toriadau difrifol o ofynion labelu alergenau bwyd.
Yn ystod arolygiad arferol yn CKs Supermarket Ltd yn 7 Spring Gardens, Arberth, ar 24 Gorffennaf 2024, nododd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o Dîm Diogelwch a Safonau Bwyd y Cyngor sawl enghraifft o beidio â chydymffurfio â gofynion labelu alergenau.
Canfuwyd bod tri chynnyrch, a ddewiswyd ar hap ar gyfer gwiriadau cydymffurfio alergenau, wedi'u labelu'n anghywir ac wedi methu â datgan yr holl alergenau yn briodol yn unol â rheoliadau.
Roedd pryderon labelu wedi cael eu codi o'r blaen gyda’r siop a gyda'r Brif Swyddfa, ond nid oedd hyn wedi sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion ac oherwydd canlyniad difrifol posibl labelu alergenau yn anghywir, cymerwyd camau ffurfiol gan y Cyngor.
Rhaid i’r holl fwyd sydd wedi'i becynnu restru yn glir yr holl gynhwysion yn nhrefn pwysau o’r mwyaf i’r lleiaf, gyda phwyslais ar yr alergenau bob tro y maent yn ymddangos, gan ddefnyddio testun trwm, wedi'i danlinellu neu mewn prif lythrennau i sicrhau ei fod yn amlwg ac i gadw defnyddwyr yn ddiogel.
Mae hyn yn sicrhau bod y 6% o boblogaeth oedolion y DU sy'n dioddef o alergeddau bwyd a'r rhai sydd â sensitifrwydd bwyd yn gallu gwneud dewisiadau bwyd gwybodus a diogel.
Mae labelu alergenau yn glir a chywir yn hanfodol bwysig i'r dioddefwyr hynny y gall bwyta hyd yn oed ychydig bach o alergenau fod yn angheuol.
Prif swyddfa CK oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r labeli ar gyfer eitemau pobi yn y siop, sy'n golygu bod y mater hwn wedi effeithio ar sawl lleoliad.
Ar ôl darganfod hyn yn siop Arberth, cysylltodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ag uwch reolwyr y cwmni ar unwaith, a thynnwyd y cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt o'r silffoedd.
Cafodd yr achos ei glywed yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth 30 Medi 30 2025.
Yn dilyn pledio’n euog yn gynnar, cafodd y Cwmni ddirwy o £12,000 am bob un o'r tair trosedd a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £2,000.
Dyfarnwyd costau gwerth £2,849.95 i Gyngor Sir Penfro.
Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio: "Mae labelu alergenau bwyd yn ofyniad cyfreithiol i ddiogelu defnyddwyr, yn enwedig y rhai sydd ag alergeddau difrifol, y gall hyd yn oed ychydig bach o gynhwysyn penodol fod yn angheuol iddynt.
"Rydym yn croesawu’r ffaith bod y cwmni wedi pledio’n euog yn gynnar a dedfryd y llys, ac yn gobeithio y bydd lefel y dirwyon a orfodwyd yn atgoffa pob busnes bwyd pa mor bwysig yw sicrhau bod labelu yn gywir ac yn cydymffurfio'n gyfreithiol."
Cynghorir unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth am ofynion labelu alergenau bwyd i edrych ar y wybodaeth sydd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd Canllawiau Alergenau i fusnesau bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd neu i gysylltu â Thîm Diogelwch Bwyd Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551 / foodsafe@pembrokeshire.gov.uk
Nodiadau i olygyddion
Roedd y troseddau penodol yn yr achos hwn yn ymwneud â:
- Bara 'Chia' a gynhyrchwyd yn y siop yn cynnwys hadau sesame ar ei ben, ond ni ddatganwyd sesame ar y rhestr gynhwysion; roedd yn dangos o dan yr adran 'Cyngor Alergenau' ar waelod y label yn unig.
- Bara aml-hadau bach, a wnaed ar y safle, yn cynnwys hadau sesame ar ei ben. Ni chanfu swyddogion unrhyw sôn am sesame ar label y cynnyrch.
- Smokey BBQ Beef Grillsticks, a gynhyrchwyd yn fewnol gan y cigydd, yn cynnwys sodiwm metabisylffit (alergen sylffit) yn y sesnin. Ni chafodd hyn ei ddatgan yn y rhestr cynhwysion, er bod sylffitau wedi'u rhestru yn yr adran 'gall gynnwys olion o...'.