
Digwyddiad cadwyn gyflenwi i arddangos cyfleoedd prosiect tai
Supply chain event to showcase housing project opportunities
Bydd digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr yn cael ei gynnal fis nesaf i gwmnïau ddysgu mwy am gyfleoedd cadwyn gyflenwi prosiect tai sylweddol gan Gyngor Sir Penfro.
Mae Morgan Construction Wales wedi ei benodi gan CSP o dan Gytundeb Gwasanaeth Cyn Contract ar gyfer prosiect Brynhir yn Ninbych-y-pysgod.
Bydd cyfanswm o 125 o gartrefi newydd a seilwaith cysylltiedig yn cael eu hadeiladu gyda'r bwriad o gychwyn yn hydref 2025, a'u cwblhau yn 2029.
Bydd y cartrefi yn amrywio o ran maint ac yn cynnwys 93 o dai fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolradd), 16 cydberchnogaeth, ac 16 ar werth ar y farchnad agored.
Bydd y cartrefi yn cael eu hadeiladu i safon uchel gan gydymffurfio ag ymrwymiad yr Awdurdod i ddatblygu adeiladau gyda Defnydd Ynni Sero Net.
Fel rhan o'u cwmpas dylunio a chaffael, mae Morgan Construction Wales yn awyddus i ymgysylltu â chyflenwyr - rhai newydd a phresennol i drafod y cynllun a chyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn y meysydd canlynol:
- Gwaith maen – islaw'r ddaear a waliau cynnal.
- Ffrâm bren (dylunio, cynhyrchu a chodi)
- Gwaith toi
- Drysau a ffenestri (gweithgynhyrchu a gosod)
- Gwaith saer mewnol
- Gwaith saer allanol
- Rendro
- Leinin sych a phlastro
- Plymio (gan gynnwys ynni adnewyddadwy)
- Trydanol (gan gynnwys solar)
- Gorffeniadau – lloriau
- Gorffeniadau – addurno
- Teilio
- Lefelu
- Gosod mastig.
- Tirlunio meddal a chaled
- Tarmacio
- Rheoli traffig
- Sgaffald
- Inswleiddio llofft
- Gwasanaethau glanhau
- Trin a thorri coed
- Gosod palmentydd bloc
Cynhelir y digwyddiad, sydd am ddim i'w fynychu, ddydd Mercher 19 Mawrth ym Mhafiliwn De Valence, Dinbych-y-pysgod, SA67 7JD rhwng 9am a 5pm.
Mae archebu a manylion pellach ar gael yn: https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/morgan-construction-wales-ltd-digwyddiad-cwrdd-ar-prynwr-prosiect-tai-brynhir/
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad Brynhir, cysylltwch â devCLO@pembrokeshire.gov.uk