Nicola Griffiths

Swyddog y Cyngor yn cyrraedd rhestr fer gwobrau proffesiynol cenedlaethol

Council officer makes national professional awards shortlist

Rhannu:

Mae swyddog Cyngor Sir Penfro wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol yn ei maes.

Mae Nicola Griffiths, Swyddog Pridiannau Tir Lleol, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yr Arwr Tawel yng Ngwobrau Rhagoriaeth Data Tir 2023.

Y gwobrau hyn, a lansiwyd yn 2008, yw’r unig rai yn y DU sy’n cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad yn y proffesiwn, gydag enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad mawreddog ym Mryste yn nes ymlaen fis nesaf.

Tîm desg gymorth Hyb NLIS – sef yr arbenigwyr yn y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol sy’n rhyngweithio â thimau ledled Cymru a Lloegr i ddatrys materion yn ymwneud â chwiliadau tir ac eiddo – sy’n pleidleisio dros yr Arwr Tawel.

I greu’r rhestr fer, mae tîm y ddesg gymorth yn enwebu unigolion neu dimau o fewn adrannau Pridiannau Tir Lleol sydd, yn eu barn nhw, yn ymdrechu’n gyson i wneud y broses chwilio mor ddi-dor â phosibl.

“Roeddwn i’n falch iawn o gael fy rhoi ar y rhestr fer, yn enwedig yng nghategori’r Arwr Tawel sy’n cael ei enwebu gan y tîm yn y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol,” meddai Nicola.

“Mae’n wych cael cydnabyddiaeth am y gwaith caled rydym ni’n ei wneud fel tîm, gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn brysur iawn.”

Mae Nicola wedi bod yn gweithio ar drawsnewid y gwasanaeth yn ddigidol, ar y cyd â Chofrestrfa Tir EF, a fydd yn golygu bod chwiliadau tir yn gyflymach ac yn symlach i bawb pan fydd yn mynd yn fyw dros y misoedd nesaf.

Meddai Rhian Young, Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu: “Rwy’ mor falch bod Nicola wedi cael ei chydnabod fel hyn.

“Mae ei thîm wedi bod yn gweithio’n ddi-baid ar broses gymhleth a llafurus trosglwyddo data i’r Gofrestrfa Tir yn ychwanegol at gynnal chwiliadau eiddo mewn marchnad brysur. Mae Nicola bob amser yn mynd yr ail filltir.”