
Tad a merch o Sir Benfro yn pledio'n euog i achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid
Pembrokeshire father and daughter plead guilty to causing unnecessary suffering to animals
Rhybudd - mae'r erthygl hon yn cynnwys delweddau trallodus.
Mae tad a merch o Sir Benfro wedi cyfaddef achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid.
Ymddangosodd Richard Scarfe o Park Street, Doc Penfro a'i ferch Brogan Scarfe o Woodbine Terrace, Penfro, yn Llys y Goron Abertawe ar 4 Mawrth wedi eu cyhuddo o achosi dioddefaint diangen i foch, defaid, dofednod a chŵn, rhwng 25 Ionawr 2022 a 18 Ebrill 2023.
Cafodd Richard Scarfe ei gyhuddo hefyd o dorri Gorchymyn Llys, a wnaed ar 26 Ionawr 2022 yn dilyn euogfarn am droseddau lles anifeiliaid, a oedd yn ei wahardd rhag cadw, ymwneud â chadw neu bod yn berchen ar eifr, asynnod, gwartheg, defaid a moch, neu fod yn rhan o unrhyw drefniant lle yr oedd ganddo'r hawl i reoli neu gael dylanwad dros eu gofal, am gyfnod o bum mlynedd.
Cynhaliwyd yr erlyniad gan Gyngor Sir Penfro yn dilyn nifer o ymweliadau â'r safle, i fonitro lles anifeiliaid i ddechrau ac, wrth i'r amodau ddirywio, i sicrhau cymorth milfeddygol ac ymyrraeth ddilynol.
Yn ystod yr ymweliadau, sefydlwyd bod Richard Scarfe yn parhau i fod â rhan yn y gwaith o gadw anifeiliaid ac yn cymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau hwsmonaeth o ddydd i ddydd, yn groes i'r gwaharddiad.
Canfu'r swyddogion hefyd nad oedd anghenion lles yr anifeiliaid yn cael eu diwallu ac wrth i faterion waethygu bod yr anifeiliaid yn dioddef yn ddiangen.
Ar un achlysur daeth swyddogion o hyd i foch marw a adawyd yn agos at lociau yn cynnwys moch byw.
Roedd y llociau yn anaddas, yn cynnwys deunyddiau peryglus a mwd dwfn hyd at y ben-glin. Nid oedd unrhyw fan gorwedd sych glân ar gael ychwaith na dim bwyd a dŵr yfed cyson.
Roedd y moch wedi'u lletya'n amhriodol mewn niferoedd mawr gan arwain at ymladd, ymddygiad ymosodol ac anafiadau.
Roedd gan un mochyn yn arbennig niwed helaeth i'r ddwy glust, a hynny mae’n debygol o ganlyniad i ymddygiad canibalaidd a achoswyd wrth i’r moch gystadlu am y bwyd a'r lle cyfyngedig.
Canfuwyd defaid dro ar ôl tro heb ddigon o ddŵr na bwyd, roeddent yn denau ac o gyflwr gwael yn gorfforol, gyda'r asennau a'r asgwrn cefn i'w gweld yn glir.
Daethpwyd o hyd i gŵn wedi'u cloi mewn bloc o gytiau anaddas. Roedd y cytiau yn rhy fach i letya'r cŵn ac yn llawn carthion a oedd yn achosi arogl budr, cryf.
Ni welwyd y cŵn yn rhydd o'u cytiau ar adeg unrhyw ymweliad gan swyddogion.
Roedd nifer o'r cŵn yn rhy denau ac yn nerfus. Gofynnwyd am farn milfeddyg preifat ar gyflwr a lles y cŵn.
Yn ystod yr ymweliadau, roedd swyddogion wedi mynegi pryder ynghylch safonau ac wedi ceisio cynnig rhoi cyngor ar les anifeiliaid a hwsmonaeth i Richard a Brogan Scarfe, er mwyn mynd i'r afael ag anghenion lles uniongyrchol yr anifeiliaid.
Fodd bynnag, methodd hyn ag arwain at welliant ystyrlon, a gofynnwyd i filfeddygon o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion gynorthwyo a rhoi barn filfeddygol annibynnol ar wartheg, moch, defaid a dofednod.
Barn y swyddogion milfeddygol oedd bod yr anifeiliaid ar y safle yn dioddef yn ddiangen o ganlyniad i fethiannau difrifol yn eu gofal a chyhoeddwyd tystysgrif o dan Adran 18 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 i symud yr anifeiliaid i le diogel ac i atal dioddefaint pellach.
Cafodd un fuwch, 26 o ddefaid, 43 o foch, 23 o ddofednod a phum ci eu hatafaelu a'u symud i noddfa anifeiliaid lle cawsant eu harchwilio gan lawfeddyg milfeddygol, ac roedd angen triniaeth feddygol ar lawer ohonynt.
Yn ystod y gwrandawiad plediodd Richard Scarfe yn euog i ddwy drosedd o dan adran 4(1) a 32(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 o achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig, sef moch a defaid.
Plediodd Brogan Scarfe yn euog i ddwy drosedd o dan adran 9 (1) ac adran 32(2) o'r Ddeddf o fethu yn ei dyletswydd i gymryd camau rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i sicrhau bod anghenion anifeiliaid (sef defaid a moch) yr oedd yn gyfrifol amdanynt yn cael eu diwallu i'r graddau sy'n ofynnol gan arfer da.
Bydd y tad a'r ferch yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 12 Mai 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Roedd y diffyg gofal a ddangoswyd i anifeiliaid yn yr achos hwn yn amlwg i swyddogion ac arbenigwyr milfeddygol, ac yn anffodus, roedd wedi arwain at ddioddefaint diangen.
“I ddechrau, ceisiodd swyddogion gynnig arweiniad i sicrhau gwelliannau i amodau lles, ond ni weithredwyd ar y cyngor yn briodol felly nid oedd gan y Cyngor ddewis ond gofyn am fewnbwn milfeddygol ac, yn y pen draw, defnyddiwyd pwerau cyfreithiol i gymryd rheolaeth dros yr anifeiliaid i atal dioddefaint pellach.
"Mae'r ffaith bod Mr Scarfe wedi parhau i gadw anifeiliaid, er iddo gael ei wahardd rhag ymgymryd ag unrhyw weithgaredd o'r math hwn, yn amlwg yn annerbyniol, ac roedd hyn yn ffactor amlwg yn y safonau gwael o hwsmonaeth anifeiliaid a welwyd yn yr achos trist hwn.”