‘Taith Gerdded Pabi’ er Cof wedi’i chreu gan bobl ifanc y dref
‘Poppy Walk’ of Remembrance created by town’s young people
Am yr ail flwyddyn, cwblhawyd prosiect teimladwy i greu ‘Taith Gerdded Pabïau’r Coffau’ yn Aberdaugleddau, gan ddefnyddio’r nifer helaeth o dorchau a osodwyd wrth y gofeb ryfeloedd yn y dref.
Daeth pobl Aberdaugleddau ynghyd yn y Gwasanaeth Coffa blynyddol ddydd Sul i anrhydeddu’r sawl a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod rhyfeloedd.
Y llynedd, cysylltodd Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Penfro â Chyngor Tref Aberdaugleddau i drafod y syniad o greu ‘Taith Gerdded Pabïau’ ar Hamilton Terrace, ac maent wedi ail-greu taith gerdded y Pabïau eleni eto.
Bu’r Tîm Ieuenctid Cymunedol yn gweithio gyda’r Gweithiwr Ieuenctid mewn Ysgolion a disgyblion o Ysgol Aberdaugleddau i osod y torchau rhwng y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r gofeb ryfeloedd i greu arddangosfa weledol drawiadol a theimladwy, gan hefyd annog mwy o bobl i ddarllen y nodiadau a osodwyd ar bob torch.
Dywedodd Liz Griffiths, Rheolwr y Tîm Ieuenctid Cymunedol, “Rydym yn falch ein bod wedi cymryd rhan mewn creu ‘Taith Gerdded y Pabïau’ eto eleni yn Aberdaugleddau. Mae’n rhoi cyfle i bawb ohonom gofio gwasanaeth ac aberth holl aelodau’r lluoedd arfog, a’u teuluoedd, ac i anrhydeddu’r rhai a fu farw.”
Nodiadau i olygyddion
Yn y llun: o’r chwith i’r dde, Andrei (disgybl yn Ysgol Aberdaugleddau), Steve Lewis (Uwch Weithiwr Ieuenctid), Racheal Jenkins (Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol), Liz Griffiths (Rheolwr y Tîm Ieuenctid Cymunedol), Lowri (disgybl yn Ysgol Aberdaugleddau), Amber Davies (Gweithiwr Ieuenctid mewn Ysgolion), a Julie Bevington (Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol).