English icon English
Cerddorion ifanc yn ymarfer yng Nghaerdydd

Taith wych i Gaerdydd i gerddorion ifanc Sir Benfro

Wonderful Cardiff trip for Pembrokeshire young musicians

Yn ddiweddar, mwynhaodd dros 40 o gerddorion ifanc o bob cwr o Sir Benfro daith breswyl dros y penwythnos i Gaerdydd, fel rhan o Gerddorfa Linynnau a Band Chwyth Symffonig Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro. Diben y penwythnos oedd mwynhau creu cerddoriaeth ac, yn anad dim, cael hwyl!

Dechreuodd y dydd Sadwrn gyda sesiynau gan yr arweinwyr gwadd, Christopher Vale (Band Chwyth) a Roger Clarkson (Cerddorfa Linynnau). Mae Christopher yn faswnydd proffesiynol a fu’n perfformio gydag Opera Cenedlaethol Cymru ers dros 30 mlynedd ac mae Roger yn gyn-Gyfarwyddwr Cerdd gyda Cherddorfa Genedlaethol Plant Prydain.

Gweithiodd y disgyblion yn galed tu hwnt trwy gydol y dydd, gan wella’r darnau maen nhw’n eu paratoi ar gyfer clyweliadau rhanbarthol Music for Youth ym mis Mawrth.

Daeth sesiwn ymarfer olaf ar y bore Sul i ben gyda’r grwpiau’n perfformio o flaen ei gilydd, a gwych oedd gweld y gwelliant yn y darnau ar ôl dim ond diwrnod o ymarfer. Yn nes ymlaen, gwyliodd y disgyblion Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio Faure, Messiaen a Brahms yn Neuadd Dewi Sant. I nifer ohonyn nhw, dyma oedd eu profiad cyntaf o gyngerdd broffesiynol.

“Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’r arweinwyr am rannu eu hamser a’u harbenigedd gyda ni’r penwythnos yma” meddai Miranda Morgan, cydlynydd cerddoriaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro, a drefnodd y daith. “Heb os, mae’r penwythnos wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i’n disgyblion mewn cymaint o ffyrdd ac maent wedi bod yn glod i’w hunain a’u teuluoedd.”

Ychwanegodd pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro, Philippa Roberts: “Mae dysgu offeryn a chyd-chwarae mewn ensemble yn caniatáu i bob disgybl rannu a chyfleu amrywiaeth eang o emosiynau,  mae’n cynnig ymdeimlad cryf o lwyddiant a, hefyd, maent yn gwneud ffrindiau ac yn creu atgofion gydol oes.

“Rwy’n falch bod Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro yn gallu parhau i ddarparu’r profiadau gwerthfawr hyn i’n cerddorion ifanc. Llawer o ddiolch i’r tiwtoriaid ymroddedig sy’n mynd yr ail filltir i annog a meithrin y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr uchelgeisiol, galluog a hyderus.”

Rhoddodd yr arweinwyr ganmoliaeth i’r disgyblion, gyda Christopher Vale yn dweud y bu’n ‘bleser mawr arwain disgyblion Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro dros y penwythnos’.

“Gweithiont mor galed ac roedd y canlyniadau’n wefreiddiol! Anfonwch fy nymuniadau gorau i bawb a fu’n gysylltiedig. Cyfle gwych i’r disgyblion ddysgu a datblygu’u sgiliau cerddorol.”

Mae’r disgyblion nawr yn edrych ymlaen at baratoi ar gyfer eu clyweliadau yng ngŵyl ranbarthol Music For Youth ym Mhorthcawl ddiwedd Mawrth.

Yn y llun mae disgyblion yn ymarfer gyda'r arweinwyr gwadd.