
Cymrwch y Her Darllen yr Haf a chwilio am y tocyn aur
Take the Summer Reading Challenge and hunt the golden ticket
Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn gweithio ar y cyd â Fferm Drychfilod Dr Beynon yn Nhyddewi i ddod ag ychydig o hud ychwanegol i Sialens Ddarllen yr Haf eleni, sy’n cynnwys syrpréis cyffrous i ddarllenwyr ifanc ledled y sir.
I ddathlu thema “Gardd o Straeon”, mae’r fferm drychfilod wedi bod yn hael iawn, ac wedi rhoi 32 o docynnau aur i ni.
Bydd plant lwcus sy’n darganfod y llyfrau â chodau cyfrinachol yn ennill mynediad am ddim i’r fferm drychfilod, atyniad ymwelwyr unigryw sy’n cyfuno gwyddoniaeth, natur a ffermio. Dyma’r wobr berffaith ar gyfer meddyliau chwilfrydig ac unigolion sy’n dwlu ar fyd natur!
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn fenter genedlaethol a gyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen, mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol. Wedi’i chynllunio i gadw plant yn darllen yn ystod gwyliau hir yr haf, mae’r her yn annog plant i ddarllen chwech neu ragor o lyfrau llyfrgell dros y gwyliau. Mae’r her yn cefnogi llythrennedd, yn sbarduno dychymyg, ac yn helpu i feithrin cariad gydol oes at ddarllen.
Bydd y rhai sy’n cofrestru’n gynnar hefyd yn cael gwobr ychwanegol!
Mae thema “Gardd o Straeon” eleni yn gwahodd plant i archwilio’r bydoedd hudolus sy’n cael eu creu gan straeon, ac mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn gwneud popeth posibl i wneud y profiad yn un arbennig. I gychwyn yr hwyl, bydd yr awdur llyfrau plant lleol, Kerry Curson yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau arbennig i awduron yn llyfrgelloedd Abergwaun, Hwlffordd ac Arberth i lansio’r her ac ysbrydoli darllenwyr ifanc.
Drwy gydol yr haf, bydd llyfrgelloedd llawn amser yn Abergwaun, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Doc Penfro, a Dinbych-y-pysgod yn cynnal sesiynau stori a chrefft wythnosol sy’n gysylltiedig â’r thema. Mae’r digwyddiadau rhad ac am ddim hyn yn ffordd wych o gadw plant wedi’u difyrru, wedi’u diddanu, ac yn dysgu drwy gydol yr haf.
Mae darllen yn ystod y gwyliau yn helpu plant i gynnal a datblygu eu sgiliau darllen, yn rhoi hwb i’w hyder, ac yn annog meddwl creadigol. Mae hefyd yn ffordd wych o ymlacio, cael hwyl a sbri, a darganfod llyfrau newydd a hoff gymeriadau newydd.
Peidiwch ag anghofio dilyn Llyfrgelloedd Sir Benfro ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, rhestr o ddigwyddiadau, a chliwiau am y tocynnau aur: https://www.facebook.com/PembrokeshireLibraryService
Gadewch i’r antur ddechrau – ewch i’ch llyfrgell leol, cymerwch ran yn Sialens Ddarllen yr Haf, ac edrychwch i weld a ydyw eich llyfr nesaf yn allweddol i ddiwrnod allan yn Fferm Drychfilod Dr Beynon!