Gwobrwyo talent, sgil ac ymroddiad yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Benfro
Talent, skill and dedication rewarded at Sport Pembrokeshire Awards
Dathlwyd talent, sgil ac ymroddiad cymuned chwaraeon wych Sir Benfro mewn seremoni wobrwyo ddisglair yr wythnos diwethaf.
Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2024 yn Folly Farm ddydd Gwener, 29 Tachwedd.
Am y tro cyntaf mewn 17 mlynedd, roedd cyflwynydd newydd wrth y llyw ar ôl i'r newyddiadurwr chwaraeon enwog Bill Carne benderfynu rhoi’r gorau iddi yn 2023.
Fe wnaeth Ceri Coleman-Phillips o Chwaraeon BBC Cymru ymgymryd â'r cyfrifoldebau cyflwyno’n wych wrth i'r enillwyr gael eu datgelu.
Dywedodd y beirniaid bod eu gwaith o ddewis enillwyr o’r 252 o enwebiadau o ansawdd uchel a dderbyniwyd o bob rhan o Sir Benfro wedi bod yn anodd iawn.
Enillydd y Wobr Cyflawniad Oes oedd Brian Hearne, am ei gyfraniadau o dros 50 mlynedd i denis yn Sir Benfro.
Dywedir fod Brian yn gystadleuydd ffyrnig ar y cwrt ond yn ŵr bonheddig oddi arno ac mae wedi ysbrydoli chwaraewyr di-ri dros y blynyddoedd
Cymerodd Brian yr awenau yn Nhwrnamaint Tenis Agored Sir Benfro ym 1966, gan sicrhau bod y twrnamaint yn parhau hyd heddiw ar ôl 75 o flynyddoedd.
Yn aelod o dîm cyntaf Hwlffordd am 45 mlynedd, bu Brian yn cynrychioli De Cymru a Chymru mewn grwpiau oedran cyn-filwyr, ac enillodd deitl dyblau Cymru.
I gydnabod ei ymrwymiad gydol oes, Brian oedd aelod oes cyntaf Clwb Tenis Hwlffordd yn 1990. Heddiw, yn 85 oed, mae'n gwasanaethu fel llywydd y clwb.
Enillydd Gwobr Cyflawniad Arbennig y Cadeirydd, a gyflwynwyd gan Gadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Steve Alderman, oedd yr enillydd medal aur Paralympaidd, Matt Bush.
Disgrifiodd y Cynghorydd Alderman Matt fel "athletwr rhyfeddol y mae ei daith yn ymgorffori gwytnwch, ymroddiad a buddugoliaeth."
Ychwanegodd y Cynghorydd Alderman: "Mae buddugoliaeth Matt yn y categori taekwondo K44 + 80kg yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024 yn foment nodedig i chwaraeon Sir Benfro.
“Yn hanes 18 mlynedd Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro, nid ydym erioed wedi dathlu medal aur Paralympaidd o'r blaen ond rydym yn gwneud hynny nawr gyda balchder aruthrol."
Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn yr ornest am fedal aur, derbyniodd Matt yr anrhydedd o fod yn gludwr baner Prydain Fawr ar gyfer y seremoni i gloi'r gemau Paralympaidd.
Gyda buddugoliaeth Matt mewn golwg, yn ystod y noson, edrychwyd yn ôl ar ddynion a menywod o Sir Benfro a fu’n cystadlu yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris, neu a oedd yn rhan o'r timau cymorth, a sut y bydd eu hymdrechion ar y llwyfan chwaraeon mwyaf yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr lleol.
Byddai wedi bod yn esgeulus peidio sôn am Jodie Grinham, o Hwlffordd yn wreiddiol, a wnaeth greu hanes trwy fod yr athletwr beichiog cyntaf i ennill medal aur Paralympaidd mewn saethyddiaeth a daeth yn un o wynebau'r Gemau Paralympaidd.
Aeth y wobr ysgol eleni i Ysgol Gynradd WRh Bro Cleddau.
Ystyrir gwobr yr ysgol yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol gan fod meithrin cariad at chwaraeon yn ifanc yn hanfodol bwysig i iechyd a lles parhaus.
Cafodd Ysgol WRh Bro Cleddau, o dan y Pennaeth Rhys Buckley, ei disgrifio fel ysgol yng nghalon ei chymuned yn Llangwm ac yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddisgyblion a staff roi cynnig ar bob math o chwaraeon a gweithgareddau.
Mae ethos chwaraeon yr ysgol yn syml ond yn sail i bopeth a wnânt.
Aeth y wobr ysgol eleni i Ysgol Gynradd WRh Bro Cleddau.
Ystyrir gwobr yr ysgol yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol gan fod meithrin cariad at chwaraeon yn ifanc yn hanfodol bwysig i iechyd a lles parhaus.
Cafodd Ysgol WRh Bro Cleddau, o dan y Pennaeth Rhys Buckley, ei disgrifio fel ysgol yng nghalon ei chymuned yn Llangwm ac yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddisgyblion a staff roi cynnig ar bob math o chwaraeon a gweithgareddau.
Mae ethos chwaraeon yr ysgol yn syml ond yn sail i bopeth a wnânt.
Enillwyr a rownd derfynol:
Gorchest Chwaraeon Merched (Dan 16)
Chloe John-Driscoll (Saethu) - enillydd
Cerys Griffiths (Nofio) - yn y rownd derfynol
Ffion Bowen (Pêl-droed) – yn y rownd derfynol
Gorchest Chwaraeon Bechgyn (Dan 16)
Carter Heywood (Pêl-droed) - enillydd
Hugo Boyce (Beicio) – yn y rownd derfynol
Ned Rees-Wigmore (Hoci) - yn y rownd derfynol
Clwb y Flwyddyn
Clwb Gymnasteg Hwlffordd – enillydd
Academi Cryfder Cymru - yn y rownd derfynol
Clwb Pêl-droed Merched a Menywod Camros - yn y rownd derfynol
Gwobr Chwaraeon i’r Anabl Iau (Dan 16)
Jac Johnson (Gymnasteg) - enillydd
Finnley Walters (Bocsio) - yn y rownd derfynol
Lewis Crawford (Boccia) - yn y rownd derfynol
Gwobr Chwaraeon i’r Anabl
Jules King (Crossfit) - enillydd
Evelyn Thomas (Codi pŵer) - yn y rownd derfynol
Marc Evans (Criced) - yn y rownd derfynol
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
Anna May (Tenis a syrffio) - enillydd
Caitlin Chapman (Pêl - rwyd) - yn y rownd derfynol
George Richards (Criced) - yn y rownd derfynol
Gorchest Tîm Iau (Dan 16) y Flwyddyn
Tîm Hwylio Iau Clwb Hwylio Neyland - enillydd
Tîm pêl-rwyd dan 12 oed Chaos Thunder - yn y rownd derfynol
Clwb Pêl-droed Hakin United dan 16 oed - yn y rownd derfynol
Arwr Tawel
John Laugharne (Rygbi) - enillydd
Owen Shanklin (Pŵl) - yn y rownd derfynol
Sue Christopher (Syrffio Achub Bywyd) - yn y rownd derfynol
Gorchest Tîm y Flwyddyn
Clwb Hoci Merched Abergwaun ac Wdig - enillydd
Alan Evans, Andrew Evans a Michael John (Bowlio Mat Byr) - yn y rownd derfynol
Tîm Bowlio Sir Benfro- yn y rownd derfynol
Gorchest Chwaraeon i Ddynion
Sam Coleman (Rasio Cychod Pŵer) - enillydd
Jeremy Cross (Tenis) - yn y rownd derfynol
Rhys Llewellyn (Athletau) - yn y rownd derfynol
Gorchest Chwaraeon i Fenywod
Helen Carrington (Codi Pŵer) – enillydd
Gracie Griffiths (Rasio Cerdded) - yn y rownd derfynol
Seren Thorne (Saethu) - yn y rownd derfynol
Trefnydd Clwb y Flwyddyn
Nadine Tyrrell (Gymnasteg) - enillydd
Paul Hudson (Bowlio Mat Byr) - yn y rownd derfynol
Nick Shelmerdine (Criced) - yn y rownd derfynol
Hyfforddwr y Flwyddyn
Tom Richards (Tenis) - enillydd
Francesca Morgan (Nofio) - yn y rownd derfynol
Philippa Gale (Pêl-rwyd) - yn y rownd derfynol
Gwobr Ysgol y Flwyddyn
Ysgol Gynradd WRh Bro Cleddau – enillydd
Gwobr Cyflawniad Oes
Brian Hearne - enillydd
Gwobr Cyflawniad Arbennig y Cadeirydd
Matt Bush – enillydd