English icon English
Y tu mewn i ystafell ddosbarth ysgol gynradd liw llachar

Taliadau gwyliau ar gyfer darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim

Holiday payments for Free School Meal provision

Bydd taliadau gwyliau Pasg yn cael eu gwneud i deuluoedd incwm is yn dilyn estyn darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim Llywodraeth Cymru.

Mae cyllid gwerth £9 miliwn wedi ei gyhoeddi ar gyfer disgyblion cymwys ledled Cymru tan ddiwedd hanner tymor mis Mai, gan gynnwys pob un o’r gwyliau banc yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud taliad BACS o £39 ar gyfer pob plentyn dros gyfnod gwyliau’r Pasg yn uniongyrchol i gyfrifon banc eu rhieni/gofalwyr ddydd Llun 3 Ebrill.

Mae’r cyllid yn caniatáu ar gyfer £19.50 yr wythnos (£3.90 y dydd) am bob person ifanc cymwys.

Mae’r ddarpariaeth hon ond yn gymwys i’r dysgwyr hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gan ddefnyddio’r meini prawf presennol ac nid yw’n ymestyn i’r disgyblion hynny sydd ond yn defnyddio’r cynnig Pryd Ysgol am Ddim Cyffredinol.

Mae plant yn y dosbarth meithrin yn llawn amser, derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn gymwys yn awtomatig i fanteisio ar y Pryd Ysgol am Ddim Cyffredinol ond mae’n bwysig os ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys eich bod yn dal i wneud cais am brydau ysgol am ddim er mwyn gallu cael mathau eraill o gyllid.

Mae mwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro, gan ysgol eich plentyn neu drwy ffonio 01437 764551.