Maes parcio dros dro Glan-yr-Afon i gau ddydd Llun 16 Medi
Temporary Riverside car park to close on Monday, September 16
Bydd y maes parcio dros dro yng Nglan-yr-afon, Hwlffordd, yn cau o ddydd Llun, 16 Medi wrth i'r gwaith ddechrau ar adeiladu'r Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd.
Sicrhewch fod pob cerbyd yn cael ei symud o'r maes parcio erbyn diwedd dydd Sul 15 Medi.
Bydd siopau a busnesau yn ardal Glan-yr-afon ar agor fel arfer.
Mae meysydd parcio eraill ar gael gerllaw yn Ffordd Perrots (y tu ôl i hen siop Wilko, arhosiad byr), Ffordd Scotchwell (y tu ôl i Aldi), Llyn y Castell a Neuadd y Sir (gyda'r nos ac ar benwythnosau).
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet ar faterion Lle, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Mae'r maes parcio dros dro wedi bod ar waith ychydig yn hirach nag y byddem wedi'i hoffi ond mae'n wych gweld y contractwr yn symud i mewn i ddatblygu'r maes parcio newydd a'r Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus.
“Rydym yn rhagweld y bydd y gyfnewidfa newydd yn agor yn gynnar yn 2026. Mae gwneud canol tref Hwlffordd yn hawdd a chyfleus i ymweld ag ef yn rhan o'n cynlluniau ehangach i adfywio'r dref a sicrhau bod Hwlffordd yn lle gwych i weithio, byw ac ymweld."
Mae'r prosiect yn rhan o Fetro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru a bydd yn cynnwys maes parcio aml-lawr modern a gorsaf fysiau integredig gyda chyfleusterau teithwyr wedi'u huwchraddio, gan gynnwys toiledau cyhoeddus a chyfleuster Changing Places.
Bydd parth cyhoeddus wedi'i uwchraddio yn gwella'r amgylchedd o amgylch y gyfnewidfa ac yn annog y rhai sy'n defnyddio'r gyfnewidfa i edrych o gwmpas y dref.