Parth Cerddwyr Dinbych-y-pysgod: Ceisiadau am drwydded mynediad i agor
Tenby Pedestrianisation: Access permit applications to open
Mae Cyngor Sir Penfro unwaith eto yn paratoi ar gyfer cynllun Parth Cerddwyr Dinbych-y-pysgod blynyddol.
Disgwylir i'r cynllun ddechrau ddydd Llun 6 Gorffennaf a gorffen ddydd Gwener 11 Medi gan fod yn weithredol rhwng 11am a 5.30pm bob dydd.
Bydd y cynllun unwaith eto yn gweld y Dref Gaerog yn cael ei rhannu'n dri 'parth’, a bydd gan bob un ohonynt raddau amrywiol o fynediad i gerbydau.
Bydd manylion llawn y cynllun a'r ffurflen gais ar-lein ar gael o ddydd Gwener 1 Mai a gellir dod o hyd iddynt ar wefan y Cyngor yn https://www.sir-benfro.gov.uk/dinbychypysgod-i-gerddwyr
Anogir trigolion a busnesau yn y Dref Gaerog i gwblhau'r broses ymgeisio cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dogfennau fynd yn fyw.
Bydd hyn yn sicrhau bod digon o amser i'r cais gael ei brosesu ac i gynnal gwiriadau ychwanegol pe bai angen rhagor o wybodaeth.
Bydd trwyddedau'n cael eu cyhoeddi tua 7-10 diwrnod cyn dyddiad dechrau'r cynllun.
Sylwch na fydd ffurflenni cais a nodiadau canllaw papur yn cael eu cyflwyno i drigolion a busnesau yn y Dref Gaerog a bydd angen cyflwyno ceisiadau am drwyddedau ar-lein.
Er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus y cynllun, anogir deiliaid trwyddedau i barhau i gynllunio teithiau y tu allan i oriau'r cynllun rhwng 11am a 5.30pm cyn belled ag sy'n ymarferol.
E-bostiwch Tenby.pedestrian@pembrokeshire.gov.uk am fwy o wybodaeth.