Terfyn amser i wneud cais ir Gronfa Ffyniant Gyffredin wedii ymestyn
Deadline to apply to UK Shared Prosperity Fund extended
Mae’r terfyn amser i brosiectau yn Sir Benfro wneud cais am gyllid i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) wedi’i ymestyn.
Rhaid cyflwyno ceisiadau bellach erbyn 11:59pm ddydd Gwener, Mawrth 31 2023.
UKSPF yw un o’r cronfeydd arian gan Lywodraeth y DU i gymryd lle llifoedd cyllid Ewrop nad ydynt ar gael bellach ar ôl Brexit. Mae hefyd yn rhan o agenda ffyniant bro Llywodraeth y DU.
Mae £7.65 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau Sir Benfro sy’n cyflawni gweithgareddau yn unol â Chynllun Buddsoddi De-orllewin Cymru ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau buddsoddi.
Y rhain yw Cymunedau a Lleoedd, Cefnogi Busnesau Lleol a Phobl a Sgiliau.
Mae rhagor o wybodaeth am UKSPF ar gael yn ystafell newyddion y Cyngor.
I gael manylion sut i wneud cais, gweler y tudalennau UKSPF.