Teulu sy’n galaru yn amddiffyn gyrwyr ifanc er cof am eu merch
Grieving family’s aim to protect young drivers in memory of daughter
Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Penfro wedi gweithio mewn partneriaeth â theulu menyw ifanc a laddwyd mewn gwrthdrawiad ar y ffordd i lansio ymyrraeth i yrwyr ifanc yn ein Sir a thu hwnt.
Nod Stori Ella Bee yw atal rhagor o farwolaethau ar y ffordd, yn enwedig ymhlith y grŵp oedran 17 i 25 oed, ac mae'n canolbwyntio ar y 5 Angheuol, pwysau gan gyfoedion, ymddygiad y gyrrwr a sut i leihau'r risgiau fel gyrrwr ac fel teithiwr.
Cafodd Ella Smith, a oedd yn 21 oed, ei lladd mewn gwrthdrawiad ar ffordd Aberllydan yn 2021 ac mae ei theulu, yn ddewr, yn adrodd stori’r noson y digwyddodd a’r cyfnod ar ôl colli Ella.
Cafodd dau yrrwr oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad eu carcharu am ddeng mlynedd yr un wedi iddynt eu cael yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.
Lansiwyd yr ymyrraeth yn ddiweddar a bydd ar gael i bob ysgol a grŵp pobl ifanc yn y Sir, ynghyd â Choleg Sir Benfro.
Gweithiodd y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn agos gyda'r teulu i lunio'r ymyrraeth sy'n cynnwys cynhyrchu dau fideo a all helpu i addysgu pob gyrrwr ifanc, ac unrhyw oedolion â gyrwyr ifanc yn y teulu.
Yn dilyn y lansiad dywedodd Maria, mam Ella: "Rydym ni fel teulu a ffrindiau gorau Ella wedi gweithio'n ddiflino gyda Chyngor Sir Penfro i gynhyrchu cyflwyniad ar ddiogelwch ar y ffyrdd i'w gyflwyno i ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i addysgu gyrwyr ifanc am yr effaith ddinistriol y mae colli Ella wedi'i gael arnom ni i gyd.
“Ella bydd dy waddol di yn byw ymlaen a byddi di'n cael dy gofio am byth am helpu eraill hyd yn oed nawr."
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Roedd lansio Stori Ella Bee yn anhygoel o bwerus. Mae teulu Ella wedi bod yn hynod o ddewr yn eu penderfyniad i sicrhau nad yw ei marwolaeth drasig yn ofer a bydd y prosiect hwn yn helpu gyrwyr ifanc eraill i gadw'n ddiogel ar ein ffyrdd."
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich ysgol neu grŵp ieuenctid gael gafael ar Stori Ella Bee, e-bostiwch road.safety@pembrokeshire.gov.uk