BRIAN HALL 2-2

Teyrnged y Cyngor i'r Cynghorydd Brian Hall

Council tribute to Cllr Brian Hall

Rhannu:

Gyda thristwch mawr y clywodd Cyngor Sir Penfro am farwolaeth Brian Hall, Cynghorydd Sir Marchnad Doc Penfro.

Ymunodd y Cynghorydd Hall â Chyngor Sir Penfro yn dilyn isetholiad yn 1996.

Yn Gynghorydd hirsefydlog, roedd y Cynghorydd Hall hefyd yn gynrychiolydd ar Bwyllgor Gorsaf Bŵer Penfro RWE Npower a Valero. Hefyd, roedd y Cynghorydd Hall wedi cynrychioli'r Awdurdod ar Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Roedd yn aelod gweithgar o nifer o bwyllgorau craffu Cyngor Sir Penfro a'r Pwyllgor Cynllunio.

Cyn hynny, bu'n eistedd ar y Cabinet, o'r adeg y’i sefydlwyd yn 2002 tan fis Mawrth 2007 a rhwng 2012 a 2022, bu'n cadeirio sawl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gan gynnwys yr Amgylchedd, Gwasanaethau a Chorfforaethol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey: "Roeddem ni i gyd yn drist iawn o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Brian Hall.

“Rwy'n estyn cydymdeimlad ar ran pawb yn y Cyngor i'w deulu a’i ffrindiau lawer.

“Roedd Brian yn un o hoelion wyth y Cyngor ac wedi bod yn gweithio i'w etholwyr am bron i 30 mlynedd.

“Roedd ei frwdfrydedd am ei ddarn o’r sir heb ei ail ac nid oedd fawr ddim o hanes Doc Penfro na allai ddweud wrthych amdano. Bydd colli Brian o'r siambr yn cael ei deimlo gan holl aelodau'r Cyngor drwyddi draw."

Mynegodd Arweinydd y Grŵp Annibynnol, y Cynghorydd Anji Tinley, gydymdeimlad dwys, gan ddweud: "Mae colli'r Cynghorydd Hall yn ein tristau yn fawr. Roedd yn ffigwr uchel ei barch a oedd yn adnabyddus am ei ymroddiad a'i ymrwymiad i lywodraethu lleol a'i gymuned. Bydd ei waddol yn parhau ym mywydau'r rhai y gwnaeth eu cyffwrdd, a byddwn yn ei golli'n fawr. Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn y cyfnod anodd hwn."