Teyrnged y Cyngor i'r Cynghorydd Jordan Ryan
Council tribute to Cllr Jordan Ryan
Gyda thristwch mawr y clywodd Cyngor Sir Penfro am farwolaeth y Cynghorydd Jordan Ryan.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey: "Ar ran Cyngor Sir Penfro, hoffwn fynegi ein sioc a'n tristwch eithriadol am farwolaeth y Cynghorydd Ryan.
“Roedd y Cynghorydd Ryan yn ddyn gwerthoedd ac egwyddorion ac roedd yn hynod falch o gynrychioli ei etholwyr yn ward Gogledd Ddwyrain Abergwaun.
“Bydd ei gyfraniadau angerddol a meddylgar i gyfarfodydd y Cyngor yn cael eu colli'n fawr gan bob Aelod, waeth beth fo'u lliwiau gwleidyddol.
“Hoffwn drosglwyddo ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau'r Cynghorydd Ryan.”
Yn gyn-faer Abergwaun ac Wdig, ymunodd y Cynghorydd Ryan â Chyngor Sir Penfro yn yr etholiadau ym mis Mai 2022.
Wedi'i ethol yn wreiddiol fel Cynghorydd Llafur, roedd y Cynghorydd Ryan yn cynrychioli ei etholwyr fel aelod digysylltiad ar adeg ei farwolaeth.
Hefyd, gwasanaethodd y Cynghorydd Ryan fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu am flwyddyn.