Dyfodol Hwlffordd - Rydyn ni'n cynllunio'r cam nesaf ar gyfer Hwlffordd - ac rydyn ni am i chi fod yn rhan ohono
The Future of Haverfordwest - We’re planning the next phase for Haverfordwest – and we want you to be a part of it
Mae'r Tîm Adfywio yng Nghyngor Sir Penfro yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol ar 19 a 20 Gorffennaf yn Haverhub (hen adeilad y Swyddfa Bost) i gasglu eich syniadau a'ch mewnbwn ar lunio dyfodol ein tref.
Y digwyddiad ymgysylltu yw'r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed.
Ers blynyddoedd, mae ein tref sirol wedi bod â lle arbennig yng nghalonnau ei thrigolion.
Fel llawer o ganol trefi, mae'n wynebu heriau ac mae'r digwyddiad hwn yn gam allweddol wrth ddiffinio'r ymateb i sicrhau bod tref Hwlffordd yn gwireddu ei photensial yn y dyfodol.
Nod cynlluniau'r Awdurdod Lleol yw creu canol tref fywiog gyda busnesau ffyniannus, a chanolbwynt bywiog i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau. Ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain - mae eich llais chi yn bwysig!
Y digwyddiad ymgysylltu cymunedol yw eich cyfle i gael eich clywed. Dewch draw i'n harddangosfa lle byddwn yn gwahodd eich barn ar ein cynlluniau i:
- Adfywio canol y dref drwy wella'r amgylchedd a'r parth cyhoeddus;
- Ysgogi glan yr afon, denu busnesau newydd a chreu canolbwynt bywiog i drigolion ac ymwelwyr;
- Gwella seilwaith: gan gynnwys - Cyfnewidfa Trafnidiaeth newydd, mynd i'r afael ag anghenion cerddwyr a beicwyr a gwella hygyrchedd;
- Creu mannau agored yng nghanol y dref i'r gymuned eu mwynhau;
- Gwella cynnig treftadaeth, celfyddydau a diwylliant Hwlffordd a
- Parhau i gefnogi busnesau lleol presennol.
Mae'r cynlluniau Adfywio ar gyfer Hwlffordd eisoes ar y gweill. Mae adeilad Glan Cei'r Gorllewin bron â’i gwblhau a bydd y gadwyn bwytai, Loungers, yn agor erbyn Rhagfyr 2024 ar y llawr gwaelod.
Mae gwaith wedi dechrau ar bont droed newydd i gymryd lle'r hen bont sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes. Bydd y bont newydd, a fydd wedi'i chwblhau erbyn gwanwyn 2025, yn arwain trigolion ac ymwelwyr o'r Gyfnewidfa Trafnidiaeth draw i fan cyhoeddus newydd rhwng y llyfrgell a Glan Cei’r Gorllewin, lle bydd arwyddion clir yn arwain pobl i Stryd y Bont a Sgwâr y Castell ac yna ymlaen i Gastell Hwlffordd.
Mae gwaith adnewyddu sylweddol ar y castell wedi dechrau i’w warchod fel atyniad treftadaeth allweddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r gwaith yn cynnwys man ar gyfer digwyddiadau newydd cyffrous y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Mae hwn yn gam pwysig o ran ymgysylltu â thrigolion Hwlffordd a rhanddeiliaid allweddol i'n helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd hyn yn helpu i lunio sut y gallem fwrw ymlaen â'r ailddatblygiad.
Nid yw'n ymwneud â brics a morter yn unig; mae'n ymwneud ag adeiladu dyfodol sy'n adlewyrchu anghenion a dyheadau pawb sy'n galw Hwlffordd yn gartref. Hoffem glywed eich syniadau, eich pryderon a'ch gobeithion chi ar gyfer y dyfodol.
Dyma gyfle i ddangos eich diddordeb mewn bod yn rhan o raglen adfywio ystyrlon, a fydd yn newid wyneb Hwlffordd ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol gwell i'n preswylwyr, ein busnesau a'n hymwelwyr."
Dywedodd Cynghorydd Thomas Tudor: “Fel Cynghorydd Sir Ward y Castell, rwy’n croesawu’r Digwyddiad Ymgysylltu Cymunedol hwn ar Ddyfodol Hwlffordd, Tref Sirol Sir Benfro. Byddwn yn annog pob aelod o’r cyhoedd i gymryd rhan yn y gweithgaredd celf cydweithredol rhad ac am ddim hwn a all fod yn brofiad gwych i unigolion a theuluoedd sydd wrth eu bodd yn creu, ac wrth gwrs i’r rhai a hoffai greu am y tro cyntaf erioed, gan egluro beth rydych chi’n teimlo sy’n bwysig i chi am Hwlffordd, a’r hyn rydych chi’n ei deimlo am y llwybr cyffrous iawn yn y dyfodol y mae Hwlffordd yn ei wneud ar hyn o bryd.”
Felly dewch i ymuno ar naill ai 19 neu 20 Gorffennaf i drafod ac am gyfle i rannu eich gweledigaeth ar gyfer Hwlffordd.
Digwyddiad ymgysylltu Adfywio Hwlffordd:
- 19 Gorffennaf 2024: 10:00am – 5pm
- 20 Gorffennaf 2024:10am – 1pm
- Haverhub, (Hen Adeilad y Swyddfa Bost), Stryd y Cei, Hwlffordd, SA61 1BG.
Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg. Os hoffech wneud hynny, rhowch wybod i ni o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
E-bost: futureofhaverfordwest@pembrokeshire.gov.uk
Os na allwch ddod i'r digwyddiad, ewch i www.pembrokeshire.gov.uk/futureofhaverfordwest am fwy o wybodaeth ac i gwblhau'r arolwg.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i greu Hwlffordd sy'n llewyrchus, bywiog ac yn llawn bywyd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!
Mae'r digwyddiad ymgysylltu hwn yn cael ei ariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Bro.