English icon English
Coppet Hall

Tirlithriad arall ar lwybr arfordir Coppet Hall

Further landslip on Coppet Hall coast path

Yn dilyn nifer o dirlithriadau a ddigwyddodd yn hwyr wythnos diwethaf ar lwybr beicio Wisemans Bridge i Coppet Hall, mae rhan fach o'r llwybr ar gau.

Digwyddodd y tirlithriad tua phen gorllewinol y llwybr, rhwng twneli Coppet Hall a Wisemans, ac mae'n effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r rhan rhwng Wisemans Bridge a thraeth Coppet Hall. Mae'r llwybr uchaf yn parhau i fod ar agor.

Mae ymgynghorydd geodechnegol Cyngor Sir Penfro wedi argymell cau'r llwybr nes bod modd gweithredu ateb i adfer y sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "O ystyried ein bod ni yng nghanol y gaeaf, mae nifer o sbardunau a allai achosi i rannau sydd wedi methu’n rhannol yn y màs creigiau gwympo, fel rhew a glaw trwm yn y tymor byr - ac mae'r tebygolrwydd uchel y bydd creigiau yn disgyn ac yn cyrraedd y llwybr.

"Mae'r Awdurdod wedi cyflogi arbenigwr i asesu wyneb y clogwyn lle bydd arolwg manwl o'r llethr yn cael ei gynnal i bennu natur a dyfnder y tirlithriad. Bydd hyn yn caniatáu dylunio gwaith adfer, a allai gynnwys tynnu ac ailraddio'r tirlithriad, ynghyd â gosod ffens i ddal y cerrig.

"Bydd adolygiad i’r tirlithriad a'r gwaith adfer angenrheidiol, sy'n amodol ar fforddiadwyedd, nawr yn cael ei werthuso. Mae hyn yn debygol o gymryd sawl mis."