
Talent i’w gweld yn y twrnamaint Boccia
Top talent on display at Boccia tournament
Cynhaliwyd Twrnamaint Boccia blynyddol Ysgolion Uwchradd Sir Benfro fis diwethaf ac roedd llawer o dalent i’w gweld.
Mae boccia yn gamp Baralympaidd lle mae cystadleuwyr yn taflu pêl ar gwrt gyda'r nod o ddod agosaf at y bêl 'jack'.
Cynhaliwyd y twrnamaint, a noddwyd gan Valero, yn y neuadd chwaraeon yn Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd ddydd Mawrth, 29 Ebrill.
Cymerodd timau o Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Ysgol Bro Gwaun, Ysgol Aberdaugleddau, Ysgol Bro Preseli, Ysgol Harri Tudur ac Ysgol Portfield ran, ac roedd cyfanswm o 20 o dimau.
Dyfarnwyd y gemau gan wirfoddolwyr o grŵp Chwaraeon Anabledd Tenderfoot o Rotari Saundersfoot a chwaraewr Boccia Rhyngwladol Cymru, Sian Jones, yn ogystal â Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd Hwlffordd
Ar ôl safon uchel o Boccia trwy gydol y dydd, y tîm buddugol oedd tîm Harri Tudur 1.
Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: 'Roedd yn wych gweld cymaint o dimau a disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgaredd mor gynhwysol. Cafwyd amser gwych gan bawb.
"Diolch yn fawr i Valero am noddi'r digwyddiad, ac i'r holl wirfoddolwyr a Llysgenhadon Ifanc am ddyfarnu a sgorio'r holl gemau. Da iawn i bawb a gymerodd ran ac a wnaeth y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant."