English icon English
Allwedd dal llaw i'r drws ffrynt newydd

Trawsnewid digidol i wella’r broses prynu eiddo

Digital transformation to improve property buying process

Mae gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol Sir Benfro wedi ymuno â’r gofrestr ddigidol genedlaethol, gan wneud y broses o brynu eiddo’n gyflymach ac yn symlach.

Ar ôl iddi gael ei lansio ar 3 Ebrill 2023, bydd unrhyw un sy’n dymuno chwilio am Bridiannau Tir Lleol yn gallu cael mynediad ar-lein yn syth trwy Gofrestr Pridiannau Tir Lleol genedlaethol Cofrestrfa Tir EF.

Fel rheol, mae’n ofynnol cynnal chwiliadau pridiannau tir lleol wrth brynu eiddo ac mae’r canlyniadau fel arfer yn ymwneud â chyfyngiadau neu waharddiadau ar ddefnyddio’r eiddo, fel caniatadau cynllunio neu statws adeilad rhestredig.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF ar drawsnewid y gwasanaeth hwn yn ddigidol, ac mae’r chwiliad mynediad cyflym yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau prynu’n gynharach yn y broses drawsgludo.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simspon: “Mae’r mudo digidol i’r gofrestr genedlaethol yn benllanw misoedd lawer o gydweithredu rhwng cydweithwyr yng Nghofrestrfa Tir EF a Chyngor Sir Penfro.

“Yn hanesyddol, fe allai gymryd oriau neu ddiwrnodau i rai cwsmeriaid gael gwybodaeth am bridiannau tir lleol, gan oedi’r broses o benderfynu ar brynu tŷ.

“Mae’r system newydd hon yn ei gwneud yn symlach ac yn gyflymach i drawsgludwyr, prynwyr eiddo, datblygwyr a llunwyr polisïau wneud penderfyniadau gwybodus am eu prosiectau.

“Mae’r trawsnewidiad yn cefnogi blaenoriaethau ehangach y llywodraeth i wneud trafodiadau eiddo’n gyflymach, yn symlach ac yn rhatach, ac rydym yn falch o fod ymhlith y rhai cyntaf i fabwysiadu’r gofrestr newydd, gan ddarparu gwasanaeth hwylus i ddefnyddwyr.”

Gallwch gael at y gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd trwy eich cyfrif porth Cofrestrfa Tir EF, y Porth Busnes neu drwy dudalen GOV.UK Cofrestrfa Tir EF.

Bydd Cyngor Sir Penfro yn parhau i reoli ymholiadau CON29 ac ymatebion cwsmeriaid, gan nad yw’r elfen hon o’r gofrestr wedi trosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF.