English icon English
bryn undeb ffordd

Trefniadau cau ffordd Union Hill wedi’u hymestyn i wneud gwaith brys

Union Hill road closure extended for urgent works

Mae’r trefniadau brys i gau ffordd Union Hill, Hwlffordd, dros dro wedi’u hymestyn er mwyn cyflawni gwaith hanfodol pellach.

Cafodd y ffordd ei chau ar 24 Chwefror i wneud gwaith brys i gryfhau strwythur a sefydlogrwydd y wal ar Union Hill, y tybiwyd ei bod yn strwythur peryglus.

Ar ôl dechrau’r gwaith, penderfynwyd bod angen ymestyn y trefniadau cau’r ffordd a’r llwybr troed cyhoeddus hyd nes 17 Mawrth er mwyn cyflawni gwaith ychwanegol nas rhagwelwyd.

Bydd y system bresennol rheoli traffig dwy ffordd dan reolaeth swyddogion a roddwyd ar waith i ganiatáu i gerbydau fynd ar hyd Stryd y Cei (swyddogion yn bresennol 6am - 5pm, goleuadau traffig 5pm - 11pm ac ar gau yn llwyr rhwng 11pm a 6am) yn parhau.

Mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd sicrhau cyn lleied â phosibl o fynediad ar hyd y stryd hon mewn cerbyd ac i ddefnyddio ffyrdd a mannau parcio eraill, lle bo hynny’n bosibl.

Bydd mynediad i fusnesau a thrigolion ar hyd Stryd y Cei i waelod Union Hill yn cael ei reoli. I sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar fusnesau, bydd mynediad i gerddwyr yn parhau ar hyd Stryd y Cei.

Bydd y sefyllfa rheoli traffig a chau’r ffordd hon yn cael ei hadolygu yn barhaus er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar fusnesau, trigolion ac ymwelwyr â’r ardal yr effeithir arni.

Dywedodd y Cynghorydd Sir ar gyfer ward y Castell Hwlffordd, Tom Tudor: “Er fy mod yn falch fod y gwaith hwn i atgyweirio’r wal yn mynd rhagddo nawr ac yn dod yn ei flaen yn dda, a gaf i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r trigolion a’r busnesau sy’n byw ac yn gweithredu ar Stryd y Cei am eu cydweithrediad, eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y broses hon, ond hoffwn eu sicrhau y cedwir mynediad i bawb sy’n gysylltiedig yn ystod y gwaith angenrheidiol."