County Hall

Dau ddyn yn cyfaddef ar ôl ymchwiliad Safonau Masnach

Two men admit charges after Trading Standards investigation

Rhannu:

Mae ymchwiliad gan Dîm Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro i ddau ddyn wnaeth dargedu dioddefwyr agored i niwed wedi pledio'n euog i gyfres o gyhuddiadau.

Yn Llys y Goron Abertawe ar 18 Medi 2026, gwnaeth Billy Lovell, 38 oed, o Under The Hills, Pontfadlen, a Timothy Lovell, 36 oed, hefyd o Under The Hills, gyfaddef i droseddau gan gynnwys twyll a thorri deddfwriaeth diogelu defnyddwyr.

Yn sgil gweithredoedd y ddau ddyn, cafodd trigolion agored i niwed eu gadael â cholledion ariannol, gan achosi pryder sylweddol iddynt.

Cafodd y dioddefwyr alwadau dro ar ôl tro yn gofyn am arian, gwnaed honiadau camarweiniol am faint o waith yr oedd ei angen a defnyddiwyd tactegau a gynlluniwyd i roi pwysau arnynt i ymrwymo i gytundebau a'u hatal rhag arfer eu hawliau canslo.

Mae'r ddau ddyn wedi pledio'n euog i gyfanswm o saith trosedd a gyflawnwyd ledled gorllewin Cymru, gan gynnwys yng Nghrymych, Aberdaugleddau a Hwlffordd.

Cyfaddefodd Billy Lovell i un cyhuddiad o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006 a thair trosedd yn ymwneud â hepgoriadau camarweiniol o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

Roedd y drosedd twyll yn ymwneud â gwneud sylwadau ffug yn anonest er budd ariannol trwy wneud honiadau ffug am faint o waith yr oedd ei angen a chymryd arian dro ar ôl tro am y gwaith hwnnw.

Roedd y troseddau hepgoriadau camarweiniol yn ymwneud â methiant i ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol i ddefnyddwyr o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013.

Plediodd Timothy Lovell yn euog i un drosedd yn ymwneud ag arfer masnachol annheg a dwy drosedd yn ymwneud ag arferion masnachol ymosodol o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

Roedd y troseddau yn cynnwys methu â bodloni'r safonau diwydrwydd proffesiynol a ddisgwylir gan fasnachwyr a chymryd rhan mewn arferion ymosodol a oedd yn ystumio gallu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Carey, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd:

"Wrth wraidd yr achos hwn mae pobl agored i niwed a ddioddefodd yn ariannol ac yn emosiynol o ganlyniad i'r troseddau hyn. Cafodd y dioddefwyr eu rhoi dan bwysau parhaus, gan eu gadael yn ofidus ac yn wynebu colledion ariannol sylweddol.

"Mae'r dyfarniadau hyn yn dangos y canlyniadau difrifol a all ddilyn pan fydd unigolion yn ceisio camfanteisio ar aelodau o'n cymunedau er budd ariannol.

"Mae'r niwed a achoswyd yn yr achos hwn yn achosi pryder mawr ac rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn rhoi sicrwydd na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef.

"Dylai'r dyfarniadau hyn fod yn rhybudd i unrhyw un sy'n ystyried ymddygiad tebyg. Pan fo tystiolaeth o'r math hwn o droseddu yn bodoli, byddwn yn mynd ar drywydd troseddwyr yn gadarn, yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid ac yn rhoi troseddwyr gerbron y llysoedd lle bynnag y bo modd.

"Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn trigolion rhag masnachwyr twyllodrus ac arferion masnachu annheg, yn enwedig y rhai sy'n targedu pobl sy’n agored i niwed."

Byddant yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 16 Tachwedd 2026.