Cyhoeddi cyllid gan y Llywodraeth DU ar gyfer ‘Launchpad’ De-orllewin Cymru — i sbarduno arloesedd a thwf busnes mewn technolegau adnewyddadwy
UK Government funding announced for South West Wales ‘Launchpad’— to drive innovation and business growth in renewable technologies
- ‘Launchpads’ newydd Innovate UK yn cyllido ac yn cefnogi arloesedd a thwf busnes rhanbarthol
- Mae’n cefnogi busnesau yng Nghymru ac ar draws y DU i arwain prosiectau datgarboneiddio yn Ne-orllewin Cymru
- Gall y pecynnau cyllid a chymorth amrywio rhwng £25,000 a £1m.
Bydd ‘Launchpad: diwydiant sero net, De-orllewin Cymru’ — prosiect partner sy’n adeiladu ar lwyddiant Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) — yn elwa ar hyd at £7.5m o fuddsoddiad newydd i sbarduno arloesedd a thwf busnes yr ardal mewn technolegau adnewyddadwy.
Gall busnesau ac ymchwilwyr o bob cwr o Gymru a’r DU elwa ar raglen Launchpads — ar yr amod bod eu prosiectau’n cael effaith uniongyrchol ar ranbarth De-orllewin Cymru, sy’n cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Gall busnesau wneud cais am grantiau cystadleuol, gyda chymorth arall, ar gyfer prosiectau arloesi sy’n canolbwyntio ar dechnolegau sy’n cefnogi’r broses o drawsnewid y rhanbarth i sero net — fel buddsoddiadau gwynt arnofiol ar y môr, cynhyrchu a dosbarthu hydrogen gwyrdd neu las, dal a storio CO2, ac atebion tanwydd cynaliadwy*.
Mae’r cyllid grant sydd ar gael yn dechrau o £25,000, gyda hyd at £1 miliwn ar gyfer prosiectau sy’n cael effaith eithriadol ar y clwstwr. Mae’r gystadleuaeth yn agor ar 30 Hydref ac yn cau ar 13 Rhagfyr.
Mae rhaglen Launchpad yn cael ei hariannu gan Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Ei nod yw adeiladu ar glystyrau arloesi ledled y DU sydd â photensial sylweddol i dyfu, ac i sicrhau swyddi, twf a chynhyrchiant uwch, gan gefnogi agenda ffyniant bro’r Llywodraeth DU.
Cafodd Lauchpad De-orllewin Cymru ei ddatblygu gan Ddiwydiant Sero Net Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro mewn partneriaeth ag Innovate UK.
Bydd prosiectau Launchpad yn cyfrannu at sicrhau twf mewn sectorau sero net, ynni adnewyddadwy ac economi gylchol, a chyfleoedd gwaith o ansawdd uchel yn Ne-orllewin Cymru — sef yr ail allyrrydd carbon mwyaf yn y DU.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael:
- cymorth arbenigol ar lefel uchel gan swyddogion yn y sector cyhoeddus, y byd academaidd a phartneriaid diwydiant ar ddatblygu achosion busnes ar gyfer cydlynu buddsoddiad mewn cyfleoedd cyllido cyhoeddus yn y dyfodol
- mynediad at strwythurau llywodraethu sefydledig, gan helpu i sbarduno prosiectau arloesi yn ogystal ag addasu i gyfleoedd newydd
- cymorth i ddatblygu prosiectau o ansawdd uchel a arweinir gan fusnes mewn ymateb i gyfleoedd UKRI yn y dyfodol, gan helpu i ryddhau cyllid
- datblygu sgiliau i gefnogi’r broses o drawsnewid y gweithlu.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’n wych bod £7.5m o gyllid Llywodraeth y DU yn dod i Dde-orllewin Cymru i gefnogi’r diwydiant sero net sy’n tyfu yn y rhan hon o’r wlad. Mae rhai busnesau arloesol iawn sydd eisoes yn gweithio â'i gilydd ac ymchwilwyr i ddatblygu diwydiannau'r dyfodol, a bydd cyllid Launchpad yn darparu'r hyn sydd ei angen arnynt i fynd â'u gwaith i'r lefel nesaf.
“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i greu swyddi a sicrhau ffyniant yng Nghymru, a dyma’r union fath o ymyriad a fydd yn helpu i feithrin economi fodern yr 21ain ganrif yn ardal Castell-nedd Port Talbot.”
Dywedodd Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru: “Ein swyddogaeth yw annog defnyddio technolegau carbon isel — drwy feithrin dulliau cydweithio, ffurfio partneriaethau strategol, a datgloi cyfleoedd buddsoddi, fel yr un yma.
“Mae gan Gymru botensial aruthrol i arwain y ffordd ym maes ynni adnewyddadwy a chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein partneriaeth â Launchpads Innovate UK yn darparu’r gefnogaeth, ac yn helpu i ddatgloi’r buddsoddiad, y mae ei hangen ar gynifer o fusnesau i fabwysiadu technolegau carbon isel.”
Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’r Launchpad yn cefnogi Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ehangach SWIC, gan gynnwys cyflawni ein cenhadaeth o sefydlu De-orllewin Cymru fel arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy ac economi sero net yn y DU.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu 15 mlynedd o brofiad o weithio ar y cyd yn Ne-orllewin Cymru â busnesau bach a chanolig i’w helpu ar eu taith tuag at ddatgarboneiddio, gan fod o fudd i’n rhanbarth ar yr un pryd.”
Dywedodd Indro Mukerjee, Prif Swyddog Gweithredol Innovate UK: “Mae Innovate UK yn meithrin partneriaethau rhanbarthol cryf ledled y DU i gefnogi arloesedd a masnacheiddio lleol. Bydd ein Launchpads newydd yn helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad ymchwil a datblygu yn y sector preifat i glystyrau arloesi, gan dyfu economïau lleol a sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau lleol.”
Ychwanegodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Rwy’n falch iawn bod Diwydiant Sero Net Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Benfro wedi llwyddo gyda’u cais am gyllid gan Innovate UK i sefydlu Launchpad.
“Fe wnes i gefnogi sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru yn gorff annibynnol i helpu diwydiant Cymru i ddatgarboneiddio, i greu swyddi newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol ac i ddatgloi cyfleoedd buddsoddi a chyllido.
“Mae’r dull hwn o weithio ar y cyd yn union beth roedden ni wedi'i ragweld yn ein Strategaeth Arloesi newydd, Cymru’n Arloesi, sy’n cynnwys nodau cyraeddadwy i gyflawni ein gweledigaeth o greu a meithrin diwylliant arloesi bywiog fel rhan o Gymru gryfach, decach a gwyrddach.”
I gael rhagor o wybodaeth am Launchpad: diwydiant sero net, cystadleuaeth De-orllewin Cymru ac i gofrestru ar gyfer digwyddiad briffio ym mis Tachwedd, ewch i https://iuk.ktn-uk.org/programme/launchpads/.
*Gall prosiectau ganolbwyntio ar un neu fwy o'r canlynol:
- Gwynt (arnofiol) ar y môr - Y Môr Celtaidd
- Cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar y tir
- Cynhyrchu a dosbarthu hydrogen gwyrdd neu las
- Dal, dosbarthu a storio CO2
- Cynhyrchu cemegau llwyfannau a thanwydd cynaliadwy
- Newid tanwydd
- Trydaneiddio
- Defnyddio a dosbarthu gwres (gwastraff)
- Systemau cymunedol grid bach
- Cefnogi arloesedd o ran datblygu sgiliau
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr — ond mae'n rhaid i fusnesau ddangos sut mae eu cynnig yn bodloni meini prawf y gystadleuaeth.