Diweddariad ar Ddatblygiadau Tai’r Cyngor
Update on Council Housing Developments
Mae diweddariadau newydd ar gyfer rhaglenni datblygiadau tai Cyngor Sir Penfro ar Old School Lane, Johnston a Tudor Place, Tiers Cross.
Old School Lane, Johnston
Yn anffodus, mae ymchwiliadau o dan y ddaear wedi nodi diffygion â’r seilwaith cyfleustodau sy’n darparu draeniad ar draws y safle.
Bu Cyngor Sir Penfro (CSP) yn cydweithio â Dŵr Cymru Welsh Water i ddatrys y problemau hyn cyn i unrhyw un symud i’r safle. Bydd hyn yn osgoi achosi unrhyw aflonyddu ac anghyfleustra difrifol i ddeiliaid contractau ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
Mae hyn wedi arwain at ragor o oedi i’r rhaglen, ond nodwyd atebion a fydd yn galluogi i’r gwaith adferol ddechrau cyn hir iawn.
Wrth i’r gwaith barhau ar y safle, mae CSP yn bwriadu trosglwyddo’r tai ar Old School Lane gam wrth gam ac mae’n rhagweld y bydd y tai cyntaf ar gael cyn Nadolig 2023.
Bydd hyn yn cynnwys tai ar gyfer anghenion cyffredinol yn bennaf, gan ganiatáu i ddetholiad o dai gael eu dyrannu cyn i’r datblygiad gael ei gwblhau’n llawn.
Disgwylir y bydd y tai sy’n weddill ar Old School Lane yn cael eu trosglwyddo yng ngwanwyn 2024, pan ddaw’r datblygiad i ben.
Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gyflenwi Tai: “Mae’n drueni y bu rhagor o oedi wrth gwblhau datblygiad Old School Lane oherwydd amgylchiadau y tu allan i’n rheolaeth, ond mae cwblhau’r gwaith hwn yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn osgoi unrhyw aflonyddu pellach ar ddeiliaid contractau yn ddiweddarach.
“Buom yn cydweithio’n agos â’r datblygwr i sicrhau bod y gwaith terfynol hwn yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl ac i’r tai hyn, y mae angen mawr amdanynt, fod ar gael i’n preswylwyr. Dyma pam rydym wedi cytuno i drosglwyddo’r tai gam wrth gam, fel y byddant ar gael.”
Mae’r datblygiad hwn yn cynnwys detholiad o gartrefi ar gyfer anghenion cyffredinol, tai a addaswyd a thai byw â chymorth. Mae’r tai a addaswyd eisoes wedi’u dyrannu i ymgeiswyr a oedd wedi’u cofrestru ar y Gofrestr Tai Hygyrch ym mis Tachwedd 2022; bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus ar gyfer y tai a addaswyd yn cael gwybod trwy lythyr cyn hir.
Pan fydd datblygiad Old School Lane yn nes at gael ei gwblhau, bydd y tai ar gyfer anghenion cyffredinol yn cael eu hysbysebu trwy Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro, a bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd â chysylltiad lleol ag ardal cyngor cymuned Johnston.
Bydd rhagor o ddiweddariadau ar y datblygiad yn cael eu rhannu pan fyddant ar gael.
Tudor Place, Tiers Cross
Bu’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda yn Tudor Place dros yr ychydig fisoedd diwethaf a bydd y sgaffald yn cael ei dynnu cyn bo hir, a fydd yn caniatáu i’r gwaith tirlunio caled a meddal ddechrau. Mae dyddiad cwblhau o hydref 2023 wedi’i gytuno â’r contractwr.
Pan fydd datblygiad Tudor Place yn nes at gael ei gwblhau, bydd y tai ar gyfer anghenion cyffredinol yn cael eu hysbysebu trwy Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro, a bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd â chysylltiad lleol ag ardal cyngor cymuned Tiers Cross.
Bryd hynny, bydd y Cyngor hefyd yn ysgrifennu at ymgeiswyr sydd wedi’u cofrestru ar Gofrestr Tai Hygyrch Sir Benfro i ganfod a oes ganddynt gysylltiad lleol ag ardal cyngor cymuned Tiers Cross. Bydd rhagor o ddiweddariadau ar y datblygiad yn cael eu rhannu pan fyddant ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai: “Wrth i Old School Lane a Tiers Cross nesáu at gael eu cwblhau, rydym yn disgwyl cryn dipyn o ddiddordeb yn y tai hyn a byddant yn cael eu dyrannu at adegau gwahanol.
“Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer dyraniad, mae felly’n bwysig eich bod wedi’ch cofrestru â Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro. Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, llythyrau gan y cyngor a chyhoeddusrwydd ynglŷn â dyraniadau’r datblygiadau hyn.”
Dilynwch gyfryngau cymdeithasol Gwasanaethau Tai CSP am ragor o ddiweddariadau ar y datblygiadau yn facebook.com/PCCHousing.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’ch Tîm Cyswllt Cwsmeriaid drwy housingCLO@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.