Diweddariad ynghylch Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd
Update on Haverfordwest Public Transport Interchange
Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi tanlinellu ei ymrwymiad i greu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus drawsnewidiol ar gyfer Tref Sirol Hwlffordd.
Dywedwyd wrth y Cabinet ddydd Llun 3 Gorffennaf bod yr holl gyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y datblygiad, sy’n rhan o brosiect Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.
Mae’r gyfnewidfa, sy’n cynnwys uwchraddio maes parcio aml-lawr, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gorsaf fysiau integredig a thoiledau cyhoeddus newydd, yn cysylltu ag adfywiad ehangach Hwlffordd sy’n parhau ar waith.
Mae hyn yn cynnwys ailddatblygu hen siop adrannol Ocky White yng Nglan Cei’r Gorllewin a mannau cyhoeddus, ac mae buddsoddiad sylweddol wedi’i gynllunio ar gyfer Castell Hwlffordd.
Cytunodd Aelodau’r Cabinet i aildendro prosiect y gyfnewidfa drwy broses dendro dau gam sydd wedi’i chynllunio i fod yn fwy deniadol i ddarpar gontractwyr.
Bydd aildendro a chyhoeddi’r contract yn ychwanegu tua chwe mis at oes y prosiect.
Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn agor maes parcio dros dro ar safle’r hen faes parcio aml-lawr (gweler isod).
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Paul Miller: “Rwyf wrth fy modd bod yr holl gyllid yn ei le ar gyfer y prosiect pwysig hwn.
“Mae’r gyfnewidfa yn ddarn hollbwysig yn y jig-so adfywio cyffredinol ar gyfer Hwlffordd.
“Rydym eisiau creu adeilad llawer mwy croesawgar â chyfleusterau ac amgylcheddau wedi’u huwchraddio i bobl allu cerdded, beicio, mynd ar fws neu yrru i’r dref a chael mynediad hawdd iddi ac i opsiynau teithio ymlaen.
“Edrychaf ymlaen at weld yr ymarfer tendro newydd yn cael ei weithredu a’r prosiect hwn yn symud ymlaen ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Maes parcio dros dro
Bydd Cyngor Sir Penfro yn agor maes parcio dros dro ar safle’r hen faes parcio aml-lawr, sydd bellach wedi’i ddymchwel, yn Hwlffordd o ddydd Llun 10 Gorffennaf.
Lleolir mynedfa ac allanfa’r maes parcio dros dro ar Ffordd Cartlett, fel o’r blaen ar gyfer yr hen faes parcio aml-lawr.
Sylwch mai maes parcio di-arian parod fydd hwn.
Ceir talu gan ddefnyddio’r ap PayByPhone yn unig.
Anogir gyrwyr i lawrlwytho’r ap PayByPhone sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple ymlaen llaw.
Gweler y wybodaeth am PayByPhone ar wefan y Cyngor.
Yn ogystal, bydd defnyddwyr rheolaidd yn gallu prynu hawlen ragdaledig drwy gysylltu â parking@pembrokeshire.gov.uk, ac mae ffurflenni cais ar gael ar y dudalen hawlenni meysydd parcio.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Mae agor maes parcio dros dro ar y safle yn benderfyniad cywir ac mae’n fater o synnwyr cyffredin wrth i’r gwaith barhau i sicrhau contractwr ar gyfer prif brosiect y gyfnewidfa.
“Rwy’n pwysleisio mai trefniant dros dro yw hwn ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’r Gyfnewidfa Trafnidiaeth a’r manteision niferus a ddaw yn sgil gwella trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltedd yn y Dref Sirol.
“Bydd y maes parcio dros dro yn darparu rhywfaint o gapasiti ychwanegol ar gyfer yr haf ac yn y cyfnod cyn y Nadolig a byddem yn annog trigolion ac ymwelwyr i gefnogi’r dref a’i masnachwyr.”