Digwyddiad ‘Ni’r Merched’ yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o sêr chwaraeon benywaidd
Us Girls event inspires next generation of female sporting stars
Daeth mwy na 50 o ferched o Ysgol Caer Elen ac Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd at ei gilydd ar gyfer digwyddiad ‘Ni’r Merched’ llwyddiannus ddydd Gwener, 6 Tachwedd, gan roi cyfle i’r merched oedd yn cymryd rhan roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau corfforol mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.
Cynlluniwyd y digwyddiad a gynhaliwyd yn Ysgol Caer Elen i helpu merched i fagu hyder, cymryd mwy o ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a chreu llwybrau i glybiau lleol a chyfleoedd cymunedol.
Mwynhaodd y merched a oedd yno amrywiaeth o weithgareddau a gyflwynwyd gan glybiau a sefydliadau lleol, gan gynnwys heriau adeiladu tîm gydag Ieuenctid Sir Benfro, taekwondo, gymnasteg, tenis bwrdd, criced, tenis, golff, rygbi a dawns.
Ymhlith y rhai o oedd yn darparu gweithgareddau roedd Ieuenctid Sir Benfro, Jay Taekwondo, Clwb Gymnasteg Hwlffordd, Clwb Tenis Bwrdd Crundale, Clwb Criced Hwlffordd, Clwb Tenis Hwlffordd, Clwb Golff Hwlffordd, Clwb Rygbi Hwlffordd ac FF Dancers.
Darparwyd ffrwythau a byrbrydau gan Morrisons a dŵr gan Princes Gate i'r rhai a oedd yn cymryd rhan. Rhoddwyd ategolion gwallt gan Hair Syrup, ac roedd cynhyrchion mislif ar gael drwy'r Grant Urddas Mislif a gefnogwyd gan Fanc Ieuenctid Sir Benfro.
Noddwyd y digwyddiad yn garedig gan Valero a gynorthwyodd i wneud y diwrnod yn bosibl.
Dywedodd Dan Bellis, Chwaraeon Sir Benfro: "Roedd yn wych cael digwyddiad ‘Ni’r Merched’ llwyddiannus arall, gyda mwy na 50 o ferched yn cael y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth eang o weithgareddau a gynigir gan glybiau a darparwyr o'r gymuned leol.
"Diolch yn fawr i'r holl hyfforddwyr, arweinwyr a gwirfoddolwyr a roddodd eu hamser i gefnogi'r digwyddiad, ac i'r busnesau a gyfrannodd yn hael i helpu i wneud y diwrnod mor llwyddiannus."
Mae'r digwyddiad yn rhan o ymdrechion parhaus gan Chwaraeon Sir Benfro a'i bartneriaid i annog mwy o ferched i fod yn egnïol, darganfod diddordebau newydd a pharhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymunedau lleol.