Ceisio barn ar gymunedau oed-gyfeillgar yn Sir Benfro
Views wanted on Pembrokeshire Age Friendly Communities
Mae ymgynghoriad wedi’i lansio i’r rhai 50 oed a hŷn sy’n byw yn Sir Benfro ynghylch y cymunedau maen nhw’n byw ynddynt.
Mae cymunedau oed-gyfeillgar yn canolbwyntio ar sut mae pobl hŷn yn gallu byw bywyd o ansawdd da yn eu cartrefi ac o fewn y sir.
Mae’r arolwg yn gofyn i bobl feddwl am eu blynyddoedd sydd i ddod a sut mae cymunedau’n gallu cefnogi’r rhain, a sut y gall gwasanaethau statudol a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol eu helpu.
Mae cymuned oed-gyfeillgar yn lle sy’n galluogi pobl i heneiddio’n dda a byw bywyd da yn y blynyddoedd sydd i ddod, rhywle lle gall pobl aros yn eu cartrefi, cymryd rhan yn y gweithgareddau maen nhw’n eu gwerthfawrogi, a chyfrannu at eu cymunedau gyhyd â phosibl.
Datblygwyd y dull cymunedau oed-gyfeillgar gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 2007, mewn ymgynghoriad â phobl hŷn ledled y byd. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n cefnogi heneiddio iach ac egnïol mewn lle ac yn cefnogi trigolion hŷn i lunio’r lle maen nhw’n byw ynddo.
Gan ddefnyddio fframweithiau presennol, bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cynnwys yn Strategaeth Cymunedau Oed-gyfeillgar Sir Benfro a’r cynllun gweithredu cysylltiedig, a fydd yn cael eu datblygu gyda sefydliadau partner sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, y sector gwirfoddol, a Fforwm 50+ Sir Benfro.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Dweud eich dweud Cyngor Sir Penfro.
Gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd) erbyn 15 Chwefror 2026.
Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â: Rachel Gibby, Swyddog Cymunedau Oed-gyfeillgar: ageingwell@pembrokeshire.gov.uk / 01437 775775