Lolfa Waldo yn agor yn natblygiad Glan Cei'r Gorllewin
Waldo Lounge opens at Western Quayside development
Croesawyd agoriad Lolfa Waldo yn natblygiad gwych Glan Cei'r Gorllewin yn Hwlffordd gan Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro.
Agorwyd Lolfa Waldo, caffi/bar hamddenol, heddiw (dydd Mercher, 20 Tachwedd) yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol gan gwmni lletygarwch blaenllaw, Loungers.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey: "Rwy'n falch iawn o weld Loungers yn agor y busnes yn y denantiaeth gyntaf yng Nglan Cei'r Gorllewin.
“Mae hwn yn ychwanegiad gwych i'r arlwy lletygarwch yn Hwlffordd, gan alluogi Glan Cei’r Gorllewin i fod yn rhan allweddol o wella nifer yr ymwelwyr a'r bwrlwm yn y dref.
Rhan bwysig o ethos Loungers yw elfen gymunedol ei bariau caffi yn y gymdogaeth a'i hymrwymiad i weithio gyda grwpiau, elusennau, sefydliadau a busnesau lleol - ac edrychwn ymlaen at weld hynny'n parhau yn Hwlffordd.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro a'r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd ac Adfywio, y Cynghorydd Paul Miller: “Mae Loungers yn rhannu ein huchelgais a'n potensial ar gyfer datblygiad Glan Cei’r Gorllewin yng nghanol y dref - ac maen nhw'n cyd-fynd yn berffaith â'r weledigaeth honno.
“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i'n tref sirol a fydd yn gweld adfywio pellach ar draws Hwlffordd i sicrhau ei fod yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
“Fel cyngor, rydym yn edrych ymlaen at y cyfalaf y bydd yn ei gynhyrchu i'r economi leol ac yn dymuno pob llwyddiant i dîm Loungers yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i Hwlffordd.”
Dywedodd y Cynghorydd Tom Tudor, Cynghorydd Ward y Castell, Hwlffordd: "Mae'r gwaith o weddnewid Glan Cei’r Gorllewin yn Lolfa Waldo hyfryd yn anhygoel.
"Roedd yn wych gweld cwsmeriaid yn mwynhau'r awyrgylch hamddenol yno heddiw ac rwy'n credu'n gryf y bydd Lolfa Waldo yn rhan bwysig o adfywiad Hwlffordd. Rwy'n dymuno'r gorau i'r tîm ar gyfer y dyfodol."
Nodiadau i olygyddion
Roedd Uwch Gynghorwyr a Swyddogion Sirol, staff y Lolfeydd a chynrychiolwyr y contractwyr sy'n rhan o ddatblygiad Glan-cei'r Gorllewin yn agor Lolfa Waldo heddiw (dydd Mercher Tachwedd 20fed).