English icon English
Western Quayside Nov 23

Glan Cei'r Gorllewin: Amser yn rhedeg allan i fusnesau pellach gofrestru diddordeb

Western Quayside: Time running out for further businesses to register interest

Mae amser yn brin i unrhyw fusnesau eraill gofrestru eu diddordeb mewn bod yn rhan o'r broses o ryddhau gofod yn natblygiad trawiadol Glan Cei'r Gorllewin yn Hwlffordd.

Bu diddordeb sylweddol eisoes yn yr adeilad tri llawr ar lan yr afon sydd i fod i agor yn haf 2024 ac mae'n rhan allweddol o adfywiad Cyngor Sir Penfro o'r Dref Sirol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar faterion Lle, y Rhanbarth a Newid yn yr Hinsawdd: "Rydym ni’n hynod o falch o nifer a safon y busnesau sydd eisoes wedi bod mewn cysylltiad am Lan Cei’r Gorllewin.

"Mae'n wych bod cymaint o fusnesau yn rhannu ein gweledigaeth ac yn gweld y potensial ar gyfer y safle gwych hwn yng nghanol y dref.

"Rydym ni’n prysur agosáu at y pwynt bod angen gwneud penderfyniadau terfynol ar denantiaid. Felly bydd angen i unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn cymryd rhywfaint o le yng Nglan Cei'r Gorllewin ond nad ydynt eto wedi cysylltu â ni wneud hynny erbyn Dydd Iau Tachwedd 30ain.

"Bydd Glan Cei’r Gorllewin, a gaiff ei gymryd ynghyd â'r buddsoddiadau eraill yn y dref yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar fywiogrwydd a nifer yr ymwelwyr yn y dref yn y dyfodol."

Am wybodaeth ar ochr Cei y Gorllewin ac i gofrestru diddordeb gweler gwefan EJ Hales (yn agor mewn ffenestr newydd).