English icon English
Rock fall - cwymp creigiau

Pont Wisemans i Neuadd Coppet, Saundersfoot — cau llwybr defnydd a rennir

Wisemans Bridge to Coppet Hall, Saundersfoot – shared use path closure

Yn dilyn Storm Ciaran a darodd Sir Benfro ar Dachwedd 2ain 2023, mae creigiau wedi disgyn ar y llwybr arfordirol a rennir rhwng Pont Wisemans a Neuadd Coppet. 

Mae'r llwybr wedi cael ei gau wedi hynny er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd yn gyffredinol, ac mae angen gwneud wyneb y graig yn ddiogel nawr yn ystod y cyfnod gaeaf hwn.

Mae'r Cyngor yn trefnu arbenigwr i asesu wyneb y clogwyn uwchben y llwybr ac arbenigwr geodechnegol i adolygu'r ardal, er mwyn ystyried dulliau i wneud yr ardal yn ddiogel. Gall hyn arwain at yr angen am waith sefydlogi clogwyni pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae'n ddrwg gennym ni fod y llwybr wedi'i gau, ond mae hyn yn angenrheidiol ar sail diogelwch. Mae'r llwybr yn parhau i fod ar gau oherwydd y risg uchel o greigiau anrhagweladwy pellach yn cwympo.  Byddem yn gofyn os gwelwch yn dda i bob defnyddiwr barchu'r cau a defnyddio'r gwyriad llwybr sydd ar waith”.

Rhagwelir y bydd y llwybr ar gau dros y Nadolig ac mae'n debygol o fod ar gau am nifer o fisoedd i'r Flwyddyn Newydd.

Nodiadau i olygyddion

Egluryn:

Mae craig yn disgyn ar y llwybr yn y llun ym mis Tachwedd.