Menyw i dalu dros £99,000 ar ôl i 26 o gŵn gael eu cymryd oddi arni mewn ymchwiliad i fridio anghyfreithlon
Woman must pay over £99,000 after 26 dogs removed in illegal breeding investigation
Mae llys wedi gorchymyn menyw i dalu mwy na £99,000 mewn costau i Gyngor Sir Penfro yn dilyn ymgyrch i dynnu 26 o gŵn o eiddo yng Nghas-mael.
Yn dilyn pryderon difrifol am eu hiechyd a'u lles, atafaelodd swyddogion y Cyngor 20 o gŵn hŷn a chwech o gŵn bach o eiddo o'r enw Penlan Oleu, Cas-mael, ar ôl arfer pwerau o dan Adran 18 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Roedd y camau gorfodi ar 2 Rhagfyr y llynedd, yn dilyn ymchwiliad manwl i amheuaeth o weithgarwch bridio cŵn anghyfreithlon yn y cyfeiriad, sy'n eiddo i Ms Rachel Roberts.
Cafwyd gwarant i ddechrau ar 25 Tachwedd 2025, gan ganiatáu i swyddogion fynd i mewn i'r eiddo ac asesu'r amodau yr oedd yr anifeiliaid yn cael eu cadw ynddynt.
Yn ystod yr ymchwiliad, nododd milfeddyg awdurdod lleol, sy'n gweithio ochr yn ochr ag Arolygwyr Iechyd a Lles Anifeiliaid, bryderon sylweddol am iechyd a lles anifeiliaid.
Roedd y rhain yn cynnwys amodau amgylcheddol gwael a methiant i fonitro, rheoli na darparu ar gyfer anghenion iechyd a lles y cŵn yn ddigonol.
O ganlyniad, rhoddwyd gwarant arall ar 2 Rhagfyr, gan alluogi swyddogion i atafaelu a chymryd meddiant o'r cŵn i atal dioddefaint diangen pellach.
Cafodd yr anifeiliaid eu cymryd o'r eiddo a'u rhoi mewn gofal priodol tra bod yr achos cyfreithiol yn mynd rhagddo.
Ar 1 Mai 2026, yn Llys Ynadon Hwlffordd, rhoddwyd gorchymyn i bob un o'r 26 o gŵn gael eu rhoi'n barhaol i Gyngor Sir Penfro, gyda'r nod o’u hailgartrefu.
Mae'r cŵn yn chwe brochgi, pedwar llamgi, dau bwdl, dau shiwawa wedi’u croesi â Jack Russell, dau gi potsiwr, un Jack Russell, un shiwawa, un ci defaid, un sbaengi.
Mae'r chwech o gŵn bach yn frochgwn wedi’u croesi â shiwawa.
Gorchmynnodd y llys i Ms Roberts dalu'r costau llawn a ysgwyddwyd gan yr awdurdod lleol, sef cyfanswm o £99,463.35, o fewn 28 diwrnod.
Mae'r costau a ysgwyddwyd yn cynnwys amser ymchwilio swyddogion, ffioedd cyfreithiol, llety cŵn am amser hir a ffioedd milfeddygol.
Wrth gyflwyno'r penderfyniad, dywedodd ynadon y byddai'r anifeiliaid wedi parhau i ddioddef yn ddiangen pe na bai'r awdurdod lleol wedi ymyrryd, gan dynnu sylw at yr amodau amgylcheddol gwael a'r diffyg gofal digonol a ddarparwyd.
Mae Cyngor Sir Penfro yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif ac ni fydd yn oedi cyn cymryd camau gorfodi cadarn lle bo angen i atal dioddefaint a diogelu lles anifeiliaid ledled y sir.