Noson wych yn Llyfrgell Hwlffordd mewn digwyddiad arbennig gyda’r Bardd Llawryfog
Wonderful night at Haverfordwest Library for special Poet Laureate event
Roedd Llyfrgell Hwlffordd yn falch iawn o fod yn rhan o Daith Llyfrgelloedd y Bardd Llawryfog ar gyfer 2024 a chynhaliwyd digwyddiad arbennig ddydd Gwener 8 Mawrth.
Estynnodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Thomas Tudor groeso arbennig i'r gwesteion anrhydeddus: y Bardd Llawryfog Simon Armitage; ei westeion Owen Sheers a Bethany Handley; ynghyd ag enillwyr Cystadleuaeth Farddoniaeth y llyfrgell yn ddiweddar.
Dechreuodd y farddoniaeth gyda'r awdur, bardd a’r ymgyrchydd anabl, Bethany Handley. Mae Bethany yn ymgyrchu dros well mynediad at natur i bobl anabl, ac mae ei gwaith yn archwilio natur ac anabledd, gan herio'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu profi.
Roedd cerdd gyntaf Bethany yn un o'r galon ac yn un doniol am ei phrofiad o ymweld â thraeth yn ei chadair olwyn. Roedd ei cherdd olaf hefyd yn deillio o’i phrofiadau, sef cerdd a oedd yn gasgliad o lawer o’r cyngor, a oedd â’r bwriad gorau, ond a oedd yn anymarferol neu amhriodol, y mae hi wedi'i gael fel defnyddiwr cadair olwyn.
Mae Owen Sheers yn fardd, awdur a dramodydd o Gymru sydd wedi ennill gwobrau. Mae wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith yn ogystal â Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli.
Enwebwyd ei gerdd-ffilm, Green Hollow, am drychineb Aberfan, am wobr BAFTA a gwobr Grierson ac enillodd dair gwobr BAFTA Cymru, gan gynnwys am yr awdur gorau.
Darllenodd Owen ddarn o'r Green Hollow, gan ddod ag erchylltra'r drychineb yn fyw. Darllenodd hefyd gerddi am fod yn rhiant a'i brofiadau fel mab ac fel tad.
Mae'r Bardd Llawryfog, Simon Armitage, wedi derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth.
Dechreuodd Simon gyda cherdd am ddynoliaeth, y bydysawd a gweithio fel un. Yna defnyddiodd ei ôl-gatalog o gerddi a ysgrifennwyd ar gyfer cerddoriaeth. Roedd ei gerddi'n ymdrin â rhai themâu anarferol, yn enwedig y rhai a luniodd yn ystod pandemig Covid.
Dywedodd ei fod hyd yn oed wedi ysgrifennu cerdd wedi'i hysbrydoli gan ffenestr Velux a darllenodd gerdd hardd am orwedd mewn hamog yn gwylio pâr a oedd newydd briodi yn hwylio heibio uwchben mewn balŵn aer poeth.
Roedd ei berfformiadau yn ddifyr, yn ddoniol ac yn deimladwy ac fe ddaeth â'r geiriau'n fyw.
Bu Simon hefyd yn sôn yn gynnes am bwysigrwydd llyfrgelloedd iddo fel plentyn ond hefyd fel oedolyn yn teithio o amgylch y wlad, a bod llyfrgelloedd bob amser yn cynnig croeso cynnes.
Diolchodd Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'r tri bardd a chyflwynodd yr arddangosfa newydd yn yr oriel, Dylan: Bywyd Barddol Dylan Thomas.
Mae'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd tan 14 Medi 2024. Gellir gweld mwy o wybodaeth ar-lein.
Daeth y digwyddiad i ben wrth i'r Cynghorydd Tudor gyflwyno'r gwobrau i enillwyr cystadleuaeth farddoniaeth yr eisteddfod yn ddiweddar. Roedd y gystadleuaeth yn dathlu iaith, diwylliant, treftadaeth a llenyddiaeth Cymru.
Y thema oedd Dylan Thomas. Gallai ceisiadau ddefnyddio ysbrydoliaeth o unrhyw un o'i weithiau neu geisio cael ysbrydoliaeth o ddyfyniad penodol: “from where you are, you can hear their dreams”.
Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd o safon uchel ac fe'u beirniadwyd gan Wendy Morse (arweinydd Grŵp Barddoniaeth Llyfrgell Hwlffordd, a fyddai'n croesawu aelodau newydd, cysylltwch â Llyfrgell Hwlffordd i gael rhagor o wybodaeth); cynrychiolwyr o staff y Llyfrgell a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y cerddi i'w gweld yn Llyfrgell Hwlffordd tan ddiwedd Gwyliau'r Pasg.
Mae gwobrau wedi'u dyfarnu i:
- Sian Davies: Athena, Goddess of Wisdom, categori cerdd ysgrifenedig i oedolion
- James Purchase: I Shall Go Gentle into That Good Night, categori cerdd ysgrifenedig i oedolion
- Philippa Davies: Dylan is in the Library, categori gair llafar i oedolion
- Tony Potts: Windfall, categori cerdd darluniadol i oedolion
- John Matthews: Dylan Cwmdonkin, categori Cymraeg i oedolion
- Ellie McGrath: It was all a dream, categori 11-14 oed
- Skye-Lea Jones: Are you listening?,categori 11-14 oed
Diolch i feirniaid y gystadleuaeth farddoniaeth ac i Faber & Faber, a roddodd y llyfrau yn wobrau i gefnogi Taith Llyfrgell y Bardd Llawryfog.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas Tudor: "Agorodd Glan-yr-afon ei drysau ym mis Rhagfyr 2018 ac mae wedi mwynhau llawer o arddangosfeydd diddorol ers hynny, diolch i'r bartneriaeth barhaus gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
"Roedd Glan-yr-afon yn un o ddim ond chwe llyfrgell i gynnal Taith Llyfrgell y Bardd Llawryfog ar gyfer 2024.
"Mae'n gyflawniad gwych i Lyfrgell Hwlffordd fod yn rhan o'r digwyddiadau arwyddocaol hyn, gan helpu i godi proffil ac adfywio y Dref Sirol a diolch i bawb sydd wedi gweithio'n galed i wneud y digwyddiad yn llwyddiant."
Ni fyddai'r digwyddiad wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth barhaus Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Tref Hwlffordd. Roedd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Maer, Siryf a Chlerc Cyngor Tref Hwlffordd i gyd yn bresennol.
Nodiadau i olygyddion
Taith Llyfrgelloedd y Bardd Llawryfog 2024 yn ymweld â Llyfrgell Hwlffordd.
Y gwesteion anrhydeddus oedd y Bardd Llawryfog Simon Armitage a'i westeion Owen Sheers a Bethany Handley.