English icon English
Portfield work starts - Gwaith Portfield yn dechrau

Gwaith yn dechrau ar ailddatblygu Ysgol Portfield

Work begins on Portfield School redevelopment

Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau'n swyddogol ar brosiect adeiladu ysgol diweddaraf Cyngor Sir Penfro.

Cafodd seremoni 'Torri Tywarchen' ei chynnal ddydd Llun 29 Gorffennaf, ar safle Ysgol Portfield yn Hwlffordd.

Y gred yw y bydd y seremoni draddodiadol, a gafodd ei chynnal i nodi dechrau’n ffurfiol ar y gwaith adeiladu, yn dod â lwc i'r prosiect gwerth £28.8 miliwn sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a Chyngor Sir Penfro. 

Mae disgwyl i'r gwaith o ailddatblygu'r ysgol, a fydd yn cynnwys rhoi adeilad arall yn lle’r "ysgol is" bresennol, ac adnewyddu canolfan chweched dosbarth yr ysgol, gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2026.

Yn dilyn hynny, bydd adeilad yr "ysgol is" yn cael ei ddymchwel i baratoi'r ffordd ar gyfer canolfan breswyl newydd i blant, ynghyd ag adnewyddu Canolfan Seibiant Tŷ Celyn gerllaw.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Addysg a'r Gymraeg: "Mae heddiw yn garreg filltir yn natblygiad Ysgol Portfield.

  

"Mae'n fodd amserol o’n hatgoffa ein bod ni, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, yn parhau i fuddsoddi yn nyfodol ein dysgwyr a'n cymuned, ac yng nghyd-destun y prosiect hwn, ein dysgwyr mwyaf agored i niwed.

"Mae pob un o'n dysgwyr yn haeddu'r ddarpariaeth orau y gallwn ni ei chynnig, ac rwy'n ddiolchgar i dîm y prosiect sydd wedi gweithio'n galed i wireddu'r prosiect hwn, yn enwedig yn ystod cyfnod pan fo costau adeiladu yn cynyddu oherwydd digwyddiadau cenedlaethol a byd-eang. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cyfleusterau newydd yn dod yn weithredol ym mis Ebrill 2026."

Bydd y cyfleusterau newydd yn cynnwys amrywiaeth o ystafelloedd therapi arbenigol a fydd yn cyd-fynd ag amrywiaeth anghenion ychwanegol y dysgwyr, ac amrywiaeth o "fannau diogel", gyda mannau ymneilltuo a synhwyraidd hyblyg, ac ardaloedd awyr agored pwrpasol, a bydd pob un ohonynt yn darparu ysgogiadau neu fesurau liniaru priodol yn erbyn effeithiau gwahanol sbardunau gorbryder. Yn ogystal â hyn, bydd ardal gemau aml-ddefnydd yn cael ei darparu a fydd hefyd ar gael i'w defnyddio gan Ysgol Gynradd Waldo Williams gyfagos.

Meddai Rob Williams, Cyfarwyddwr Ardal y contractwyr Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd: "Rydyn ni’n yn falch iawn ein bod ni wedi dechrau ar y gwaith o ailddatblygu Ysgol Portfield, prosiect uchelgeisiol a fydd yn rhoi campws ysgol arbennig cyfoes i Sir Benfro.

"Rydyn ni’n ddiolchgar i Gyngor Sir Penfro a holl bartneriaid ein prosiect am ein helpu ni i gyrraedd y garreg filltir gyffrous hon, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr adeilad gorffenedig."

Ychwanegodd Mrs Samantha Lawrence, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Portfield: "O'r ymgysylltu helaeth â chleientiaid a'r cynlluniau sydd wedi’u darparu, mae hyn yn addo dod yn amgylchedd addysgu a dysgu gwych a bydd yn rhoi cyfleusterau modern y mae mawr angen amdanynt ar gyfer nifer cynyddol o ddysgwyr yn y sector hwn.

"Rydyn ni’n ddiolchgar i Gyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru am gefnogi'r prosiect hwn, ac i dîm cyfan y prosiect am yr ystyriaeth hynod fanwl sydd wedi’i rhoi i ddatblygu’r safle a’r adeiladau hyd yn hyn, ac am wrando arnon ni fel bod y cyfleusterau gorau posibl yn cael eu rhoi ar waith i'n dysgwyr; allwn ni ddim aros i symud i mewn".

Nodiadau i olygyddion

Llun

Yn y llun, yn torri'r dywarchen gyntaf, mae cyn Bennaeth Ysgol Portfield, Mr Damian Hewitt gyda'r Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, Mrs Samantha Lawrence, Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Portfield, y Pennaeth Gweithredol presennol, Mrs Jane Harries, a Mr Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg.   Ochr yn ochr ag aelodau o Fwrdd Rhaglen Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor, a chynrychiolwyr o gorff llywodraethu'r ysgol, Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd, a thîm prosiect y Cyngor.