English icon English
20mph sign - Arwydd 20mya

Gwaith yn parhau ar yr adolygiad o’r terfyn cyflymder 20mya wrth i ffigyrau ddangos gostyngiad yn nifer yr anafiadau

Work continues on 20mph speed limit review as figures show fall in casualty numbers

Mae gwaith yn parhau ar yr adolygiad o'r terfyn cyflymder o 20mya mewn rhai ardaloedd yn Sir Benfro lle cafwyd adborth gan y cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau i Drigolion, y bydd sylwadau a cheisiadau trigolion yn cael eu defnyddio i adolygu rhai cyfyngiadau 20mya yn y flwyddyn ariannol nesaf, ar sail fesul anheddiad.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sinnett: "Lle mae adolygiad terfyn cyflymder wedi'i gyflwyno, byddwn yn ymgynghori â thrigolion i dderbyn adborth uniongyrchol cyn mynd i ymgynghoriad ehangach ar welliannau i'r terfynau ac ailgyflwyno terfyn o 30mya.”

Croesawodd y Cynghorydd Sinnett ystadegau hefyd sy'n dangos gostyngiad calonogol yn nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol a marwolaethau ers cyflwyno'r terfyn diofyn o 20mya.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ar wrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, rhwng Gorffennaf a Medi 2024, yn dangos bod gwrthdrawiadau ar eu lefel isaf ar ffyrdd Cymru ar gyfer y chwarter hwnnw ers y dechreuwyd eu cofnodi, gan gynnwys yn ystod y pandemig.

Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ar 30 Ionawr hefyd yn darparu'r flwyddyn gyntaf o ystadegau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.

Maent yn dangos bod tua 100 yn llai o bobl ledled Cymru wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd gyda chyfyngiadau cyflymder o 20mya a 30mya yn y cyfnod o 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Roedd nifer yr anafiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno) rhwng Gorffennaf a Medi 2024 y ffigurau Chwarter 3 isaf yng Nghymru ers dechrau eu cofnodi.

Yn ystod y cyfnod o 12 mis hyd at fis Medi 2024 (ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya), mae nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya 28% yn is nag yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Mae Sir Benfro wedi gweld gostyngiad canrannol tebyg yn nifer yr anafiadau yn ystod y cyfnod hwn, o 125 o anafiadau cyn gweithredu 20mya i 89 o anafiadau ar ôl ei weithredu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sinnett: "Cafwyd ymateb amrywiol yn sgil cyflwyno'r cynllun 20mya ac mewn rhai achosion barn negyddol gref. Fodd bynnag, mae'r gostyngiad mewn anafiadau ers cyflwyno 20mya i'w groesawu, ac mae'n dangos bod nifer y gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd ar eu lefel isaf ar gyfer y chwarter hwn.

“Er gwaethaf y newyddion calonogol bod llai o anafiadau, yn anffodus ceir rhywfaint o ddifrod troseddol i arwyddion ffyrdd yn Sir Benfro o hyd lle mae arwyddion 20mya yn cael eu chwistrellu â phaent neu’n cael eu tynnu i lawr. Hyd yn hyn, mae gosod arwyddion newydd oherwydd fandaliaeth wedi costio tua £4,000 mewn costau deunydd yn unig ac er gwaethaf y fandaliaeth hon gellir gorfodi’r rheol 20mya yn llawn.”