Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad i Senedd Cymru ym mis Mai yw hanner nos ar 20 Ebrill 2026.
Ready to vote? Register for the Senedd Election
Gall unrhyw un sy’n 16 oed ac yn hŷn, ac sy’n byw yng Nghymru, gofrestru i bleidleisio: Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK
Ceredigion Penfro yw enw’r etholaeth a fydd yn cwmpasu siroedd Ceredigion a Sir Benfro, a bydd chwe aelod yn cael eu hethol ar gyfer yr etholaeth hon drwy ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’ (closed proportional list).
Mae gwefan newydd wedi lansio, sef bwrwpleidlais.cymru, sy’n egluro popeth sydd angen i chi ei wybod am yr Etholiad i Senedd Cymru ar 07 Mai 2026.
Yma, gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth a’ch gorsaf pleidleisio trwy fewnbynnu eich cod post, dysgu mwy am y system bleidleisio, sut i bleidleisio a deall yn llawn pa bwerau sydd gan y Senedd.
Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Canlyniadau ar gyfer Etholaeth Ceredigion Penfro: “Mae cofrestru i bleidleisio yn gam bach sy’n gallu cael effaith fawr. Mae’r penderfyniadau a wneir yn Senedd Cymru yn llywio’r gwasanaethau a’r cymorth y mae ein cymunedau’n dibynnu arnynt bob dydd — o iechyd i addysg i drafnidiaeth a’r amgylchedd. Ewch ati i gofrestru i bleidleisio cyn 20 Ebrill, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am drefniadau’r Etholiad eleni ar wefan bwrwpleidlais.cymru”.
Dywedodd Dirprwy Swyddog Canlyniadau’r Etholaeth, Will Bramble: "Mae'n bwysig iawn bod pawb sy'n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Mae cofrestru i bleidleisio yn sicrhau y gallwch gael eich llais wedi’i glywed yn etholiad y Senedd.”
Dyddiadau pwysig:
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 20 Ebrill 2026.
- Os ydych wedi symud cartref yn ddiweddar ac nid ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026.
- Os ydych eisiau pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2026.
- Os ydych eisiau pleidleisio drwy ddirprwy (nid drwy ddirprwy mewn argyfwng), y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026.
- Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy mewn argyfwng ar gael ar ôl 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026 tan 5.00pm ar 07 Mai 2026 ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol yn unig. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01545 572032.
- Cynhelir yr Etholiad ar 07 Mai 2026, gyda’r gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07:00 a 22:00.
- Bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif a’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn ystod y dydd ar 08 Mai 2026.