Y Gwaith o adeiladu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau i ddechrau fis Gorffennaf 2026
Construction of Milford Haven Public Transport Interchange to begin July 2026
Disgwylir i’r gwaith o adeiladu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau ddechrau ar y safle ddiwedd mis Gorffennaf 2026, gan nodi carreg filltir bwysig wrth wella seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy a chysylltedd yn y dref a'r rhanbarth ehangach.
Bydd y prosiect yn darparu canolfan drafnidiaeth fodern, cwbl integredig wedi'i chynllunio i wella hygyrchedd, profiad teithwyr, a’r gallu i gyfnewid rhwng bws, trên, cerdded a beicio. Mae'r datblygiad yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol Aberdaugleddau, gan gefnogi twf economaidd, lleihau allyriadau trafnidiaeth, ac annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
Ariennir y prosiect drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru a chyllid cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro.
Bydd y gwaith cychwynnol yn cynnwys clirio’r safle, gwaith galluogi, a dargyfeirio cyfleustodau. Bydd y prif weithgareddau adeiladu yn dilyn yn fuan wedi hynny. Mae'r rhaglen adeiladu wedi'i chynllunio'n ofalus i leihau tarfu ar drigolion lleol, busnesau a defnyddwyr trafnidiaeth. Bydd trefniadau dros dro yn cael eu gweithredu i gynnal mynediad at wasanaethau hanfodol trwy gydol y gwaith.
Mae tîm y prosiect wedi ymrwymo i gynnal mynediad diogel yn ystod y gwaith adeiladu, cyfathrebu diweddariadau i'r cyhoedd yn rheolaidd, cefnogi busnesau lleol lle bo hynny'n bosibl a lleihau effeithiau amgylcheddol trwy arferion adeiladu cyfrifol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Bydd y datblygiad hir-ddisgwyliedig hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ardal, gan roi hwb i gysylltedd, cefnogi twf economaidd a helpu i greu dyfodol mwy gwyrdd ar gyfer cenedlaethau i ddod. Edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn dechrau a'r manteision i'n cymuned yn sgil hynny."
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Rwy'n falch iawn bod y gwaith o adeiladu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau ar fin dechrau. Mae hwn yn brosiect hynod bwysig i'n tref ac yn fuddsoddiad arwyddocaol yn nyfodol Aberdaugleddau. Unwaith y bydd wedi'i chwblhau, bydd y gyfnewidfa newydd yn darparu canolfan drafnidiaeth fodern, hygyrch â chysylltiadau da fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl deithio ar fws, trên, a cherdded a beicio. Bydd yn gwella'r profiad i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn annog ffyrdd mwy cynaliadwy o symud o gwmpas."
Dywedodd Mark Hooper AS, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth: "Rwy'n falch iawn o weld fod y gwaith adeiladu ar y prosiect hwn ar fin dechrau, sydd wedi cael ei gefnogi gan dros £14m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
“Mae'r ganolfan drafnidiaeth fodern, integredig hon yr union beth sydd ei angen arnom i gyflawni ein gweledigaeth o rwydwaith trafnidiaeth wedi'i gysylltu'n llawn yng Nghymru - un lle mae rheilffyrdd, bysiau, cerdded a beicio i gyd yn gweithio'n ddi-dor gyda'i gilydd.
“Drwy wella hygyrchedd ac annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy, bydd y gyfnewidfa hon yn cefnogi twf economaidd yn Aberdaugleddau a'r rhanbarth ehangach ac yn helpu Cymru ar ei thaith i sero net."
Dywedodd James Gough, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC): "Rydym yn llawn cyffro i weld y buddsoddiad yng Ngorsaf Reilffordd Aberdaugleddau yn bwrw yn ei flaen.
“Mae'r orsaf yn rhan allweddol o'n rhwydwaith rheilffyrdd ac yn borth hanfodol i'r dref a'r gymuned ehangach, a bydd y buddsoddiad hwn yn gwella profiad cwsmeriaid yn fawr.
“Yn ystod y cyfnod adeiladu, dylai cwsmeriaid wirio cyn iddynt deithio i sicrhau eu bod yn gwybod am unrhyw newidiadau i'w teithiau tra bydd y gwaith yn cael ei wneud."
Dywedodd Emma Osborn, Cyfarwyddwr Strategaeth Teithwyr Network Rail Cymru a'r Gororau: "Mae Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol teithio cynaliadwy yn Sir Benfro. Trwy wella cysylltiadau rhwng rheilffordd, bysiau, cerdded a beicio, bydd y prosiect yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddewis trafnidiaeth gyhoeddus ac yn gwella’u profiad wrth deithio yn gyffredinol.
“Rydym yn falch weithio gyda'n partneriaid i ddarparu canolfan drafnidiaeth fwy hygyrch, integredig a fydd o fudd i deithwyr a'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Richard Watts, Rheolwr Gyfarwyddwr Rheilffyrdd Balfour Beatty: "Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith ar y prosiect pwysig hwn i Aberdaugleddau a'r gymuned ehangach. Gan ddefnyddio ein profiad helaeth o ddarparu seilwaith rheilffyrdd a thrafnidiaeth, byddwn yn gweithio'n agos gyda Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Penfro i gyflawni'r cynllun yn ddiogel ac yn effeithlon, gan leihau tarfu lle bynnag y bo modd, a chreu canolfan drafnidiaeth a fydd yn gwasanaethu'r dref am flynyddoedd i ddod.”
Bydd Cyngor Sir Penfro yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Yn y llun: Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr Cllr Rhys Sinnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cllr Paul Miller gyda Matthew Pearce ac Anthony Price o Cyngor Sir Gar ac Joseph Hill o Balfour Beatty.