Y Tîm Strategaeth Drafnidiaeth yn mynd i’r gogledd ar gyfer yr ymgynghoriad diweddaraf
Transport strategy team heads north for latest consultation
Mae Tîm Strategaeth Drafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn mynd i’r gogledd yr wythnos hon i drafod cynlluniau ar gyfer gwelliannau teithio llesol yn Llandudoch.
Mae’r cynlluniau teithio llesol diweddaraf yn cynnwys creu llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd y Stryd Fawr, Feidr Fawr a Stryd Pilot (B4546) a llwybr cyd-ddefnyddio yn cysylltu troedffordd Feidr Fach â llwybr newydd a llwybr pren cantilifrog i Stryd Pilot.
Bydd gweithdai cyhoeddus i drafod y cynlluniau sydd â’r nod o wella parcio, llif traffig a symudiad cerddwyr ledled y pentref sy’n boblogaidd gan ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.
I gael gwybod mwy ewch i Neuadd Goffa Llandudoch ar 21 Hydref, ar gyfer sesiynau a gynhelir rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a 6.30pm ac 8pm.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.
Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau
Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am bedair wythnos, ac yn cau ar 18 Tachwedd 2024 am hanner nos.